Pryder actor am ddyfodol canolfan geflyddydol

  • Cyhoeddwyd
Best actor winner Jack Parry-JonesFfynhonnell y llun, BAFTA Cymru/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Jack Parry-Jones

Mae un o sêr y gyfres deledu Bang! ymhlith grŵp o bobl sydd wedi mynegi pryder am ddyfodol canolfan geflyddydol Redhouse ym Merthyr Tudful.

Fe wnaeth Jack Parry-Jones arwyddo llythyr agored sy'n cyhuddo'r rheolwyr presennol o adael i'r ganolfan ddirywio.

Dywed y llythyr fod cymuned artistig Merthyr yn pryderu y bydd y lle "yn cau ei ddrysau i'r celfyddydau yn gyfan gwbl."

Mae'r ganolfan yn cael ei reoli gan Wellbeing Merthyr sy'n dweud nad oes "unrhyw gynlluniau i gau Redhouse".

Cafodd Redhouse ei adeiladu yn 1896 fel hen Neuadd y Dref, a phencadlys llywodraeth leol.

Ar ôl i'r cyngor symud o'r adeilad yn 1989, fe drodd yn glwb nos ac yna dechreuodd yr adeiladwaith ddirywio.

Yn 2007 dechreuodd y gwaith o'i adnewyddu a'i droi yn ganolfan i'r celfyddydau.

Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd adeilad y Redhouse ei godi yn 1896

Erbyn hyn Ymddiriedolaeth Merthyr Tydfil Leisiure sy'n gyfrifol am y lle, gan fasnachu dan yr enw Wellbeing Merthyr.

Yn y llythyr at brif weithredwr Wellbeing Merthyr mae'r grŵp ymgyrchu yn galw am fwy o graffu cyhoeddus a mwy o ffocws ar y celfyddydau.

Dywed y llythyr fod pobl leol yn "ddig iawn gyda'r modd mae'r ganolfan yn cael ei redeg, a bod y lle yn dirywio".

Dywed prif weithredwr Wellbeing Merthyr, Sally Church, nad oedd unrhyw sail i'r pryderon.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd nad oes yna gynlluniau i gau Redhouse.

"Yn wir rydym yn cymryd pob cam i ddiogelu ei sefydlogrwydd ariannol ac yn cael trafodaethau positif gyda phartneriaid newydd er mwyn diogelu ein dyfodol fel canolfan ar gyfer hamdden a'r celfyddydau," meddai.

"Rydym yn gobeithio gwneud cyhoeddiad positif yn y dyfodol agos."