Gêm gyfartal i Forgannwg a Sir Gaerloyw yn y T20

  • Cyhoeddwyd
Andrew SalterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Andrew Salter (dde) i gymryd pedair wiced i Forgannwg

Mae Morgannwg yn parhau i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth y T20 y tymor hwn wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal gyffrous gyda Sir Gaerloyw.

Llwyddodd Morgannwg i gael cyfanswm o 172-5 yn eu batiad nhw, gyda Fakhar Zaman yr unig fatiwr i sgorio dros hanner can rhediad (58).

Diolch i fowlio gwych Andrew Salter, gymrodd bedair wiced i Forgannwg, fe gafodd Sir Gaerloyw ddechrau araf i'w batiad, cyn cael diwedd gwych.

Fe lwyddodd yr ymwelwyr i frwydro 'nôl i sgôr o 172-7, gan olygu bod y ddau dîm yn gwbl gyfartal ac felly'n cael un pwynt yr un.