Morgannwg yn colli i Hampshire yng nghystadleuaeth y T20

  • Cyhoeddwyd
Chris CookeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Chris Cooke ei fowlio allan am ddau rediad

Mae Morgannwg wedi colli am y pedwerydd gwaith yng nghystadleuaeth y T20 eleni wedi iddyn nhw golli o 41 rhediad i Hampshire yn Southampton.

Sgoriodd Hampshire 128 am 7 yn eu 20 pelawd - gyda James Vince (25) a Liam Dawson (23) ymysg y prif sgorwyr i'r tîm cartref.

129 oedd y targed felly i Forgannwg ond roedd ymateb yr ymwelwyr yn sâl.

Y batiwr agoriadol, David Lloyd gafodd y nifer fwyaf o rediadau i Forgannwg - 26 - ond dim ond dau chwaraewr arall lwyddodd i gyrraedd 10 rhediad.

Mae'r golled yn golygu bod Morgannwg yn parhau i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth eleni.