Cymru 'â phopeth' i fod yn adnodd gemau pwysig
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sy'n hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ddatblygwyr gemau yn dweud fod popeth yng Nghymru i'w wneud yn adnodd pwysig yn y byd gemau cyfrifiadurol.
Mae'r darlithydd Simon Reed yn ffigwr amlwg yn y diwydiant sy'n ceisio annog Cymru i gymryd mantais o'r farchnad byd eang.
Gyda dim ond 30 o gwmnïau gemau wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, mae'r brif ddinas ar ei hol hi i gymharu â dinasoedd eraill yn y DU - fel Bryste sydd gyda 50 o gwmnïau yno.
Ond, mae 65 stiwdio ar hyd a lled Cymru, ac mae rhai yn credu nad oes angen i'r stiwdios fod yn y dinasoedd mawr.
Mae'r diwydiant gemau byd eang yn werth dros £110bn ac mae disgwyl iddo dyfu i £144bn erbyn 2021 , yn ôl y corff UK Interactive Entertinemnt (UKIE).
Mae Caerdydd yn y 16eg safle ar y rhestr o ran nifer y cwmnïau gemau mewn dinasoedd yn y DU.
Ond yn ôl Mr Reed, sy'n darlithio ym Mhrifysgol De Cymru, "Mae'r sgiliau yma, mae'r addysg yma ac mae'r isadeiledd yma".
Yn ôl David Banner, prif weithredwr Wales Interactive ym Mhen-y-bont ar Ogwr, does dim rhaid i gwmnïau gemau gael eu sefydlu yn y dinasoedd.
"Gyda thechnoleg y we sy'n gwneud y byd yn llawer llai, does dim rheidrwydd i fod yn y dinasoedd mawr mwyach," meddai.
"Rydym yn cystadlu gyda chwmnïau fel Rockstar ac EA. Er ein bod yn gwmni o Gymru, mae ein cynulleidfa yn ymestyn ymhellach na Chymru."
'Cyfle gwych'
Mae Mr Reed yn credu y byddai'n gyfle gwych i economi Cymru: "Rydym wedi gweld yn ddiweddar bod nifer o fyfyrwyr yn sefydlu stiwdios eu hunain yn lleol.
"Maen nhw'n ceisio dod a rhagor o waith i'r economi yn hytrach na symud i ffwrdd ohoni."
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad ddiwedd y flwyddyn ar y sector digidol a sut y dylid cefnogi'r sector sy'n cynnwys gemau cyfrifiadurol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2019