Penodi'r swyddog byw ar y cyd cyntaf yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Powys a Chanolfan Cydweithredol Cymru wedi penodi'r swyddog byw ar y cyd cyntaf yng Nghymru.
Mae ymchwil newydd yn dangos bod pobl sy'n dewis byw ar y cyd gydag eraill yn dweud bod ansawdd eu bywydau wedi gwella.
Mae'n ffordd o fyw sy'n boblogaidd yn Sweden a Denmarc. Yn aml mae pobl yn byw mewn tŷ preifat cyffredin lle mae gan bawb eu lle preifat eu hunain, ond yn rhannu cyfleusterau eraill.
Yn ôl ymchwil gan Ganolfan Cydweithredol Cymru mae pobl sy'n byw ar y cyd yn hapusach, yn llai ynysig ac yn dweud eu bod wedi dysgu sgiliau newydd.
'Newid agweddau'
Mae swyddog byw ar y cyd cyntaf Cymru, Allan Shepherd yn gobeithio y bydd buddion fel y rhain yn annog mwy o bobl i ystyried byw yn y modd yma.
"Mae hyn i gyd ynglŷn â newid agweddau a meddwl sut y gallwn ni fyw mewn ffordd wahanol," meddai.
"Dwi'n byw mewn tŷ cydweithredol - o'r blaen roedd gen i fy nhŷ fy hun ond roeddwn i'n byw ar fy mhen fy hun ac yn teimlo wedi ynysu yn gymdeithasol.
"Mae byw ar y cyd wedi gwneud lles i fi, ond dyw pobl ddim yn deall bod y ffyrdd eraill yma o fyw ar gael."
Yng Nghymru dim ond mewn 0.5% o dai y mae pobl yn byw ar y cyd, ond mae'n bosib fod hynny ar fin newid.
Mae Rachael Marshall yn byw ar y cyd gydag eraill yn Llanidloes, Powys, gyda'i dau fab a naw o bobl eraill.
"Mae diddordeb gen i mewn byw yn gydweithredol ers blynyddoedd," meddai.
"Clywais i am Ddol Llys ac roeddwn i'n awyddus iawn i fyw yno. Ro'n i'n gwybod bod gan y tŷ lawer o dir ac roedd hynny'n atyniad mawr i fi.
"Ry'n ni'n rhannu'r ardd ac mae pawb sy'n byw yma yn anhygoel, ry'n ni gyd yn gyrru ymlaen yn dda iawn gyda'n gilydd - alla i ddim dychmygu byw hebddyn nhw.
"Yn amlwg mae pobl yn mynd a dod ond mae teimlad o gymuned yma dy'ch chi ddim yn cael wrth fyw ar stryd gyffredin."
'Grŵp cydweithredol'
Mae cartrefi byw ar y cyd yn eiddo i grwpiau cydweithredol, gydag aelodau yn prynu cyfranddaliadau yn hytrach na phrynu tŷ neu fflat eu hunain.
Maen nhw'n gallu gwerthu eu cyfranddaliadau os ydyn nhw'n penderfynu symud i fyw.
Tra bod byw ar y cyd yn gallu cynnig dewis amgen i bobl yn hytrach na pherchnogaeth neu dai cymdeithasol, i rai mae'n ymwneud hefyd â byw mewn cymuned gyda phobl o'r un meddwl.
Fe wnaeth Siobhan Riordan a Francesca Casini sefydlu Silver Cohousing yn gynharach eleni gyda'r bwriad o adeiladu cymuned gynaliadwy ym Mhowys - gyda thua hanner y gymuned yn fenywod dros 50 oed.
Dywedodd Ms Riordan: "Mae'r mwyafrif ohonom yn fenywod sengl heb deulu y gallwn ni ddibynnu arnyn nhw, felly'r ffordd orau i ni i gael y math o dŷ a'r gofal ry'n ni moyn yn y dyfodol yw ffurfio rhyw fath o grŵp tai cydweithredol.
"Dyna'r strwythur cyfreithiol sy'n caniatáu i ni brynu tir a thai er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer cymuned gynaliadwy."