Rheoli nifer pobl ifanc ar fws wedi digwyddiad yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni bysiau yn y gogledd wedi dweud eu bod yn lleihau nifer o deithwyr ifanc heb warchodwyr ar eu gwasanaethau ar ôl i yrrwr gael ei gam-drin.
Cafodd un o yrwyr Gwynfor Coaches ei "boeri arno a'i fygwth" gan grŵp o 20 o bobl ifanc rhwng Llanberis a Bangor.
Roedd y grŵp o blant rhwng 13-15 oed yn teithio ar wasanaeth 85 am 18:30 ddydd Gwener.
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i adroddiad o ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
'Annheg i deithwyr'
Mae'r cwmni o Langefni yn rhedeg 18 gwasanaeth ar draws y rhanbarth.
Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Roedd hwn yn ddigwyddiad erchyll i'r gyrrwr.
"Roedd hefyd yn annheg i'r teithwyr eraill sydd yn ein cefnogi'n gyson drwy ddefnyddio'r gwasanaeth.
"Ni fyddwn yn gallu cario mwy na phedwar person ifanc ar y pryd, os na'u bod yn teithio gydag oedolyn," meddai.
Ym mis Mawrth fe wnaeth bysus Arriva Cymru ganslo gwasanaeth nos Sadwrn rhwng Pwllheli a Blaenau Ffestiniog oherwydd pryderon am ddiogelwch a chwynion am ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2019