Morgannwg yn colli'n drwm yn erbyn Sussex yn y T20

  • Cyhoeddwyd
Marchant de LangeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Marchant de Lange yn cael ei fowlio allan yn erbyn Sussex

Fe gollodd Morgannwg o naw wiced yn erbyn Sussex Sharks mewn gêm 20 pelawd nos Fawrth.

Morgannwg wnaeth fatio'n gyntaf, gan osod targed o 146 am naw wiced i'r tîm cartref.

Ond fe gyrhaeddodd Sussex Sharks sgôr o 150 gyda dros chwe phelawd yn weddill - a naw wiced dros ben.

Mae'r golled yn golygu bod Morgannwg yn parhau i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth y T20 eleni.