Rhybudd melyn am law ar draws Cymru ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai cawodydd o law trwm a stormydd taranau achosi trafferthion ar draws Cymru ddydd Gwener.
Mae yna rybudd bod yna ychydig o siawns y bydd llifogydd mewn cartrefi a busnesau - ac fe allai hynny achosi difrod i adeiladau.
Bydd y rhybudd mewn grym ar draws bob un o siroedd Cymru gan gynnwys Sir Conwy, sy'n cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol.
Daw'r rhybudd i rym am hanner nos, ac mae'n para tan 23:59 nos Wener.
Rhybuddir hefyd y gall amodau gyrru fod yn anodd ac y gallai'r tywydd amharu ar wasanaethau trên a bws.