Ymchwilio i honiad bod plismon wedi ymosod yn rhywiol
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiad bod heddwas gyda Heddlu Gwent wedi ymosod yn rhywiol ar ddynes yng Nghaerdydd.
Heddlu Avon and Somerset sy'n cynnal yr ymchwiliad i'r digwyddiad honedig ar 28 Mehefin.
Mae heddwas arall o Heddlu Gwent yn wynebu ymchwiliad yn dilyn honiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Dywedodd Heddlu Avon and Somerset bod y ddau wedi cael eu gwahardd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal
Mae BBC Cymru ar ddeall mai dau brif uwch-arolygydd - Mark Warrender a Marc Budden - sydd wedi'u gwahardd, ond dyw hi ddim yn glir eto pa ddyn sydd wedi'i gyhuddo o beth.
'Ymchwiliad annibynnol'
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Gwent, Rhiannon Kirk: "Mae Heddlu Avon and Somerset yn cynnal ymchwiliad annibynnol i honiad o drosedd gan blismon gyda Heddlu Gwent ynghyd ag ymchwiliad i honiadau o gamymddwyn yn erbyn swyddogion eraill.
"O ganlyniad mae dau berson wedi cael eu gwahardd o'u gwaith. Ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Bydd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn goruchwylio'r ymchwiliadau.