Eisteddfod: 'Cynllun wrth gefn' am dywydd garw

  • Cyhoeddwyd
Rhybuddion tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybuddion tywydd mewn grym ar gyfer dydd Gwener (chwith) a Sadwrn

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud bod "cynlluniau wrth gefn" wrth i rybudd tywydd am wynt a glaw ddod i rym.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai hyd at 30mm o law ddisgyn o fewn ychydig oriau ddydd Gwener.

Gallai gwyntoedd "annhymorol" achosi problemau ddydd Gwener a Sadwrn hefyd.

Mae cwmni ynni Western Power Distribution yn dweud fod cynlluniau wrth gefn wedi eu paratoi, ac yn barod i ddod i rym erbyn 09:00 ddydd Gwener.

Ychwanegodd llefarydd y bydd staff wrth gefn mewn canolfannau rheoli er mwyn ymateb i alwadau ychwanegol.

Wrth i'r Eisteddfod ddweud bod cynlluniau mewn lle, mae un cyngor sir yn y gorllewin wedi annog ymwelwyr i baratoi yn ofalus.

Glaw trwm a gwynt

Mae'r rhybudd am law dros Gymru gyfan ddydd Gwener, gyda'r posibilrwydd y bydd "band o law trwm ac yna cawodydd trymion neu stormydd yn achosi trafferthion".

Bydd rhybudd arall am wyntoedd cryfion yn dod i rym dros Gymru ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae yna siawns bychan o lifogydd yn effeithio eiddo a ffyrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Betsan Moses bod gorffwys rhai o gaeau'r Maes wedi gwneud "byd o wahaniaeth"

Ddydd Iau, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Mae yna asesiad risg wedi cael ei 'neud ar gyfer pob un o'n strwythura' ni, felly ni'n ymwybodol iawn o beth alle nhw gymryd.

"Mae gynnon ni gynlluniau wrth gefn, ond ar hyn o bryd ry'n ni'n parhau."

Dywedodd bod yna fonitro a thrafodaethau cyson ar y cyd â'r heddlu, y cyngor sir ac asiantaethau eraill, ond nad ydyn nhw'n rhagweld angen i gwtogi ar weithgareddau'r ŵyl ar hyn o bryd.

Rhybudd i wersyllwyr

Mae'r Eisteddfod wedi gyrru ebost at wersyllwyr yn gofyn iddyn nhw "sicrhau nad oes gennych unrhyw eitemau tu allan".

Dywedon nhw hefyd y dylai gwersyllwyr "ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau gwynt cryf sy'n berthnasol i chi - yn unol â'r math o garafan ac adlen, neu'r math o babell sydd gennych"..

Mae Cyngor Sir Penfro wedi rhybuddio pobl sy'n bwriadu gwersylla neu garafanio yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.

Dywedodd llefarydd y dylen nhw sicrhau bod eiddo wedi ei gadw'n ddiogel oherwydd y perygl o wyntoedd, yn enwedig ger yr arfordir.

Mewn neges ar Twitter dywedodd Heddlu De Cymru bod gŵyl hen gerbydau ym Mhontypridd wedi ei chanslo oherwydd y rhagolygon.