Plant mewn gofal yn byw mewn hyd at 57 o lefydd gwahanol

  • Cyhoeddwyd
PlantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr astudiaeth yn dilyn 205 o blant dros gyfnod o 10 mlynedd

Fe wnaeth un plentyn fyw mewn 57 o lefydd gwahanol tra mewn cysylltiad gyda'r gwasanaethau cymdeithasol, yn ôl astudiaeth sy'n codi pryderon am y system ofal.

Fe wnaeth academyddion ddilyn achosion 205 o blant mewn un awdurdod lleol dienw yn ne Cymru dros gyfnod o 10 mlynedd.

Ar gyfartaledd fe symudodd plant naw gwaith, a gweld saith gweithiwr cymdeithasol.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio bod symud plant dro ar ôl tro rhwng cartrefi gofal a theuluoedd maeth yn eu gwneud yn fwy agored i gael eu hecsbloetio'n rhywiol.

Mae hefyd yn datgelu bod un o bob tri phlentyn oedd yn rhan o'r astudiaeth wedi cael eu cam-drin yn rhywiol - cyfran lawer uwch na'r disgwyl.

Roedd merched yn fwy tebygol o ddioddef cam-fanteisio rhywiol, ac roedd plant gafodd eu cam-drin yn rhywiol yn y gorffennol yn fwy tebygol o gael eu hecsbloetio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llynedd, roedd 6,407 o blant dan ofal awdurdodau lleol yng Nghymru

Fe gafodd wybodaeth ei gasglu am yr holl blant oedd mewn cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol mewn un cyngor yn ne Cymru yn 2006.

Nid yw'r sir wedi'i henwi er mwyn cadw'r plant yn anhysbys.

Fe wnaeth Sophie Hallett, arbenigwr polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd dreulio chwe wythnos mewn cartref gofal preswyl gyda phobl ifanc.

'Rhesymau cymhleth'

Fe gwynodd gofalwyr maeth am ddiffyg cefnogaeth ac roedd gweithwyr cymdeithasol yn dweud nad oedd ganddyn nhw'r adnoddau i ddelio ag achosion.

Dywedodd Dr Hallett fod yna "sawl rheswm cymhleth" pam fod plant mewn mwy o berygl o gael eu hecsbloetio os ydyn nhw'n symud sawl gwaith.

"Heb fywyd cartref sefydlog, mae teimladau o gael eich gwrthod ac ansicrwydd yn gwaethygu," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd plant mewn gofal yn symud naw gwaith ar gyfartaledd

Llynedd, roedd 6,407 o blant dan ofal awdurdodau lleol yng Nghymru - cynnydd o 464 (8%) ar y flwyddyn flaenorol.

Roedd 10% ohonynt wedi byw mewn o leiaf tri lleoliad gofal.

Ond roedd astudiaeth Dr Hallett yn cynnwys yr holl symudiadau ym mywyd plentyn, nid yn unig o fewn y system ofal.

Gallai hynny olygu bod yn ddigartref, byw gyda ffrindiau a pherthnasau neu garchar.

Costau'n cynyddu

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno targedau i gwtogi nifer y plant sydd yng ngofal awdurdodau lleol.

Wrth i'r gyfradd o blant mewn gofal godi mae cynghorau wedi gweld costau'n cynyddu.

Mae'r gyfradd yn uwch yng Nghymru na Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Er bod y gyfradd yn uwch fyth yn Yr Alban, mae wedi gostwng yno yn ystod y blynyddoedd diwethaf tra'i fod wedi parhau i godi yng Nghymru.