Datblygwr yn euog o dorri coeden 200 oed yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae datblygwr wedi cael ei ganfod yn euog o achosi neu ganiatáu i goeden goch hynafol gael ei thorri yn Abertawe.
Roedd Fiorenzo Sauro, 49, wedi gwadu dymchwel 70 o goed oedd wedi'u gwarchod, gan gynnwys y goeden goch 200 mlwydd oed, ar safle datblygiad tai ym Mhenllergaer.
Ddydd Llun fe wnaeth y contractwr coed Arwyn Morgan gyfaddef mynd yn groes i orchymyn cadw wrth dorri'r goeden ar y safle ym mis Tachwedd llynedd.
Ond roedd Fiorenzo Sauro yn parhau i fynnu ei fod yn ddieuog.
Ddydd Mawrth dywedodd Sauro wrth y llys nad oedd ganddo unrhyw beth i'w ennill drwy dorri'r goeden, a bod y peth wedi digwydd "ar ddamwain" am nad oedd pobl wedi dilyn ei gyfarwyddiadau.
Ond yn dilyn gwrandawiad wnaeth bara deuddydd, fe wnaeth y barnwr Neale Thomas ganfod Enzo's Homes a chyfarwyddwr y cwmni, Sauro, yn euog o'r ddau gyhuddiad.
Wrth ymateb i'r dyfarniad dywedodd y cynghorydd Mark Thomas, sy'n aelod cabinet dros yr amgylchedd ar Gyngor Abertawe, nad oedd hon yn drosedd "heb ddioddefwyr".
"Roedd y goeden a gafodd ei dymchwel yn rhan o dreftadaeth yr ardal hon o Abertawe ac yn un o'r cyntaf i gael ei phlannu yn y ddinas," meddai.
Bydd Sauro a Morgan nawr yn cael eu dedfrydu, ac fe ddywedodd Mr Thomas ei fod yn ystyried beth fydd "maint y ddirwy".