Gillingham 2-2 Casnewydd (1-4 ciciau o'r smotyn)
- Cyhoeddwyd
Bydd Casnewydd yn herio West Ham United yn ail rownd Cwpan y Gynghrair wedi iddynt drechu Gillingham ar giciau o'r smotyn.
Gillingham aeth ar y blaen wedi 26 o funudau diolch i gic o'r smotyn gan yr ymosodwr Brandon Hanlan.
Bron i'r tîm cartref ymestyn y fantais yn gynnar yn yr ail hanner, ond fe lwyddodd Nick Townsend i arbed ail ymdrech Hanlan o'r smotyn.
Gydag ond pedwar munud yn weddill fe ddaeth Casnewydd yn gyfartal diolch i ergyd Tristan Edwards o ganol y cwrt cosbi.
Fe aeth y Gills ar y blaen am yr ail dro wedi 90 munud diolch i gic o'r smotyn arall. Mikael Ndjoli ergydiodd yn gywir heibio Townsend i wneud hi'n 2-1.
Ond yn eiliadau olaf yr amser ychwanegwyd am anafiadau cafodd Ndjoli gerdyn coch am dacl sâl yn y cwrt cosbi. Fe ergydiodd Padraig Amond yn gywir i gornel isaf y rhwyd i'w gwneud hi'n 2-2.
Gyda'r ddau dîm yn gyfartal ar ddiwedd y gêm roedd rhaid troi at giciau o'r smotyn. Casnewydd oedd fwyaf cywir o 12 llath gan lwyddo i sgorio pob un o'u pedwar ergyd.
Bydd yr Alltudion nawr yn wynebu West Ham yn Rodney Parade yn ail rownd y gystadleuaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2019
- Cyhoeddwyd3 Awst 2019