Adran 2: Casnewydd 1-0 Plymouth Argyle

  • Cyhoeddwyd
Casnewydd yn dathluFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd gôl hwyr Kyle Howkins yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth hollbwysig i Gasnewydd - y cyntaf i'r Alltudion yn y gynghrair eleni.

Plymouth reolodd y chwarae o'r cychwyn cyntaf gan greu sawl cyfle nodedig yn ogystal ag ennill 70% o'r meddiant.

Joe Riley ddaeth agosaf i'r ymwelwyr gydag ergyd bwerus gafodd ei arbed yn dda gan Tom King.

Roedd rhaid i'r Alltudion chwarae rhan fwyaf y gêm heb yr amddiffynnwr dylanwadol Mickey Demetriou hefyd, wedi iddo adael y cae oherwydd anaf yn yr hanner cyntaf.

Ond Casnewydd aeth ar y blaen wedi 81 munud diolch i beniad pwerus Howkins.

Golyga'r fuddugoliaeth bod Casnewydd yn codi i'r nawfed safle yn Adran 2.