Diswyddo plismon gyda Heddlu'r De wnaeth gymryd cil-dwrn

  • Cyhoeddwyd
Mark HopkinsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr bod gweithredoedd Mark Hopkins yn "sinigaidd ac yn farus"

Mae ditectif gwnstabl o Heddlu De Cymru wedi cael ei ddiswyddo heb rybudd ar ôl iddo gymryd cil-dwrn arweiniodd at orfod gollwng achos o ymosodiad.

Cafodd Mark Hopkins ei garcharu am bedair blynedd mis diwethaf am wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Wrth ymchwilio i achos o ymosodiad ar fachgen 17 oed yn 2008, fe wnaeth Hopkins, 49 oed o Don Pentre, Rhondda, annog y dioddefwr i dynnu ei ddatganiad yn ôl.

Roedd wedi derbyn £1,000 er mwyn gorfodi gollwng yr achos.

Roedd ei gyn-wraig wedi dweud wrth yr heddlu am ei drosedd yn ystod proses ysgaru.

Daeth Prif Swyddogion y llu i'r casgliad fod ei drosedd yn golygu ei fod yn haeddu cael ei ddiswyddo a'i fod wedi dwyn anfri ar Heddlu'r De.

'Chwalu'r ffydd'

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r De, Richard Lewis: "Mae Heddlu De Cymru yn disgwyl i'w swyddogion ymddwyn yn onest ac yn gywir ac i beidio ymwneud mewn gweithredoedd allai ddwyn anfri ar y llu.

"Mae DC Hopkins wedi chwalu'r ffydd oedd gan yr heddlu a'r cyhoedd ynddo fel swyddog.

"Mae wedi cyflawni trosedd ddifrifol, roedd yn swyddog profiadol ac roedd yn ymwybodol o oblygiadau ei weithred ar y dioddefwr ac yn ffydd y cyhoedd sydd wedi cael ei danseilio yn yr achos yma," meddai.

Galwadau 'bygythiol'

Yn ystod yr achos, clywodd Llys y Goron Caerdydd bod yr honiadau yn ei erbyn wedi codi ar ôl i gyn-wraig Hopkins roi gwybod i'r heddlu am ei "frolio".

Dywedodd hi ei fod wedi cyrraedd adref a rhoi swm o arian parod - rhwng £500 a £1,000 - ar fwrdd y gegin.

Yn ôl yr erlynydd, Adam Payter, fe dderbyniodd Mr Diaper alwadau "bygythiol" yn dweud iddo dynnu ei ddatganiad yn ôl, a chafodd gynnig o £3,000 gan rywun oedd yn honni ei fod yn ymwneud â gwerthu cyffuriau ym Manceinion.

Er bod Mr Diaper wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yn teimlo dan bwysau, clywodd y llys nad oedd Hopkins wedi cadw cofnod o'r pryderon hyn.

Honnodd yr erlyniad bod Hopkins hefyd wedi ymweld â thŷ'r dioddefwr er mwyn ei annog i dynnu'r datganiad yn ôl cyn cydlofnodi dogfen i ddod â'r ymchwiliad i ben.