Dim Lefel A? Dim problem
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o ddisgyblion ar hyd a lled Cymru wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch Ddydd Iau. Mae'n gyfnod o ansicrwydd i nifer, gyda llefydd yn y brifysgol yn y fantol.
Ond nid pawb sy'n dymuno dilyn y llwybr yma.
Roedd Iolo Owen yn ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, pan benderfynodd - ar ôl diwrnod yn unig yn y chweched dosbarth - ei fod am fynd yn syth i'r byd gwaith, gan ddilyn cynllun prentisiaeth gyda chwmni adeiladu ym Mangor.
Cyngor BBC Bitesize ar ddiwrnod canlyniadau Lefel A
Dros ddegawd yn ddiweddarach, mae bellach yn Rheolwr Datblygu gyda'r un cwmni. Bu'n egluro wrth Cymru Fyw pam ei fod yn meddwl mai nid addysg uwch yw'r ffordd ymlaen i bawb:
Y peth 'iawn' i wneud
Fi oedd yr unig un o fy nghriw o ffrindia' wnaeth ddim gwneud arholiadau Safon Uwch, neu Lefel A.
Mae gwneud Lefel A a mynd i'r brifysgol fel rhyw fath o social movement - mae rhai yn gwneud hynny am eu bod yn teimlo mai dyna ydy'r peth "iawn" i 'neud. Ond mae 'na opsiyna' eraill ar gael.
Dydw i ddim yn trio d'eud am un funud bod mynd i'r brifysgol yn beth anghywir i 'neud, ond yn aml iawn dydy pobl ddim yn gwybod lle maen nhw isio mynd na chwaith be' maen nhw isio'i 'neud.
Mae'n bwysig fod pobl ifanc yn holi pobl ac yn gwneud eu hymchwil am y cyfleoedd sydd ar gael, gweld be' mae'r cyflogwyr yn eu cynnig a pheidio cyfyngu eu hunain.
O'n i'n meddwl mod i'n g'neud y peth anghywir am tua chwe mis ar ôl dechrau'r cynllun prentisiaeth. Os ti'n cael y drefn draddodiadol wedi'i ddrymio mewn i chdi am flynyddoedd - mai gwneud Lefel A a mynd i'r brifysgol ydy'r peth i 'neud - ti'n mynd i goelio hynny, heb ofyn cwestiyna'.
Mae o'n gam mawr. Ti'n mynd i amau dy hun achos dy fod yn mynd oddi ar y llwybr arferol.
Aberth
Fi oedd y 'fenga yn y cwmni am bedair blynedd - o'n i mewn yn y deep end go iawn, ac yn poeni os o'n i wedi g'neud y penderfyniad cywir.
Ond ro'n i wedi bod yn darllen i fyny am gymaint o bobl oedd yn mynd i 'neud gradd mewn pensaernïaeth ac yn methu cael swyddi, felly pan gesh i'r cyfle i fynd ar gynllun prentisiaeth efo cwmni lleol, pam fyswn i'n risgio mynd i'r brifysgol?
Dydy o ddim yn fêl i gyd. Y gost oedd mod i heb gael bywyd stiwdant. Ond mae 'na ormod o bobl yn mynd i'r brifysgol, ac yn dod o'na mewn dyledion mawr, a dal ddim callach be' maen nhw isio'i 'neud.
Mae ganddyn nhw obeithion uchel gan fod pobl wedi dweud wrthyn nhw mai dyna ydi'r ffordd orau i gael swydd. Wel dydy hynny ddim yn wir erbyn hyn.
Os siaradwch chi efo cyflogwyr, byddai'r rhan fwya' yn d'eud y byddan nhw'n fwy parod i gymryd rhywun efo profiad a sgiliau ymarferol yn lle rhywun sydd efo gradd ar ddarn o bapur. Dylai 'na fwy gael ei 'neud i hybu cwmnïau i dderbyn prentisiaid.
Mae 'na aberth - ella dy fod yn tyfu i fyny yn rhy sydyn weithia'. Pan wyt ti'n 16 oed, ella dylai chdi ddim bod yn poeni am gyfarfodydd am 7 yn y bora, ond mae o'n g'neud chdi'n fwy cyfrifol. Ti'n tyfu i fyny'n gynt.
Hyd yma dwi wedi cael y cyfle i weithio ar brosiectau ar draws y wlad sydd werth ymhell dros £100 miliwn. Mae'r profiad dwi wedi'i gael wedi fy ngalluogi i drosi eiddo gwag yn fflatiau ac adnewyddu fy nhŷ fy hun.
Dim pawb sy' isio hynny, dwi'n dallt, ond fyswn i heb allu g'neud hynny os fyswn i wedi mynd i'r brifysgol. Diolch i Dduw fod y cynllun yna wedi bod ar gael i mi.
Dydw i ddim isio i bobl feddwl mai hyn ydi'r peth "iawn" i 'neud chwaith. Mae pawb yn wahanol.
Ond mae'n bwysig fod pobl yn gwybod bod 'na gyfleoedd eraill ar gael a bod pob dim ddim yn troi o gwmpas Lefel A a'r brifysgol.
Cafodd yr erthygl yma ei chyhoeddi gyntaf ym mis Awst 2016
Hefyd o ddiddordeb: