Mantais i Sir Gaerhirfryn yn erbyn Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Samit PatelFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Samit Patel i gael sgôr o 54 ar ei ymddangosiad cyntaf i Forgannwg

Sir Gaerhirfryn gafodd y gorau o'r chwarae ar ddiwrnod cyntaf y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd ym Mae Colwyn ddydd Sul.

Cafodd Morgannwg ddechrau rhesymol ar ôl dewis batio, gan gyrraedd cyfanswm o 257 ar gyfer eu batiad cyntaf.

Llwyddodd Charlie Hemphrey (56) a Lukas Carey (51 heb fod allan) i gael hanner canrif yr un, yn ogystal â Samit Patel (54) ar ei ymddangosiad cyntaf i'r sir.

Ond cafodd Sir Gaerhirfryn ddechrau da i'w batiad cyntaf nhw, gan gyrraedd sgôr o 85-1 erbyn diwedd y chwarae.

Mae Morgannwg yn yr ail safle yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd ar hyn o bryd, ar yn un nifer o bwyntiau â Sir Gaerloyw, sy'n drydydd.