Marchnad Anifeiliaid Aberteifi i gau ym mis Medi
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni arwerthwyr wedi cadarnhau y bydd Marchnad Anifeiliaid Aberteifi yn cau fis nesaf.
Yn ôl Arwerthwyr J J Morris bydd y farchnad olaf yno'n cael ei gynnal ddydd Llun, 9 Medi.
Dywedon nhw fod y penderfyniad wedi bod yn un anodd, ond bod costau cynyddol, llai o anifeiliaid ac achosion o'r diciâu yn yr ardal yn ffactorau.
Fe ddaw'r cyhoeddiad ychydig wythnosau ar ôl cyhoeddiad y bydd marchnad Y Bont-faen yn cau hefyd.
Dywedodd J J Morris na fydd y penderfyniad yn cael effaith ar eu marchnadoedd yng Nghrymych a Hendy-gwyn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd dirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Brian Thomas bod y newyddion yn "ergyd arall i'n diwydiant".
"Mae cau unrhyw farchnad anifeiliaid yn tynnu adnodd allweddol o'r gymuned, a hefyd yn gorfodi ffermwyr i deithio llawer ymhellach i werthu eu stoc," meddai.
"Yn anffodus dyma arwydd o'r byd sydd ohoni, ac rwy'n pryderu am ddyfodol rhai o'r marchnadoedd anifeiliaid llai."