'Brenin y Gelli', Richard Booth, wedi marw yn 80 oed

  • Cyhoeddwyd
Richard Booth tu allan i'w siop yn 1971Ffynhonnell y llun, Ian Tyas/Getty Images/Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Richard Booth tu allan i'w siop yn 1971

Bu farw Richard Booth, y gŵr a drodd y Gelli Gandryll yn brifddinas llyfrau ail-law y byd, yn 80 oed.

Prynodd ei siop lyfrau gyntaf yn hen orsaf y frigâd dân y dref yn 1961.

Yn ei sgîl, fe agorodd nifer o siopau llyfrau eraill yno, gan drawsnewid y dref farchnad yn Fecca ar gyfer llyfrbryfed.

Bu Mr Booth yn gofalu am ei siop tan 2007.

Cymaint oedd ei gariad tuag at y Gelli nes iddo gyhoeddi yn 1977 bod y dref yn deyrnas annibynnol, gydag yntau'n frenin arni, a rhoddwyd pasbort arbennig i bob un o'i thrigolion.

Disgrifiad o’r llun,

Richard Booth yn 1988

Dywedodd Anne Addyman, o Addyman's Books yn y dref, y byddai colled ar ei ôl.

"Rydym yn drist iawn. Fo fu'n gyfrifol am wneud y dref yma yr hyn ydy hi heddiw," meddai.

"Roedd o'n unigryw ac ar flaen y gad yn trawsnewid yr economi wledig yn y 60au a'r 70au.

"Rydym am roi llyfrau duon yn y ffenestri a chael wythnos o alaru dros Frenin y Gelli."