Sir Gaerhirfryn yn rhoi cweir i Forgannwg ym Mae Colwyn

  • Cyhoeddwyd
cooke
Disgrifiad o’r llun,

Y capten Chris Cooke oedd yr unig fatiwr i basio 40 yn yr ail fatiad

Fe wnaeth Sir Gaerhirfryn drechu Morgannwg o fatiad a 150 rhediad ym Mhencampwriaeth y Siroedd ym Mae Colwyn.

Gyda Sir Gaerhirfryn yn dechrau'r trydydd diwrnod ar sgôr o 544-9, dim ond un rhediad y llwyddon nhw i'w ychwanegu ar gyfer cyfanswm o 545.

Roedd hynny'n golygu bod Morgannwg 288 rhediad ar ei hôl hi wedi'r batiad cyntaf, a cafodd y Cymry ddechrau trychinebus i'w hail fatiad.

Roedden nhw ar sgôr o 46-4 erbyn amser cinio, cyn cael eu bowlio allan am gyfanswm o 138.

Y capten Chris Cooke oedd yr unig un i basio 40 mewn ail fatiad ofnadwy i'r tîm cartref.

Fe wnaeth Sir Gaerhirfryn felly ennill o fatiad a 150 rhediad, a hynny mewn tridiau yn unig.

Mae'r canlyniad yn ergyd i obeithion Morgannwg am ddyrchafiad o'r Ail Adran, gyda hyn yr ail dro yn unig iddyn nhw gael eu trechu yn y bencampwriaeth eleni.