Adran Dau: Walsall 0-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Jamille Matt yn ergydio ar ran Yr Alltudion yn erbyn WalsallFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jamille Matt sawl cyfle i sgorio i'r Alltudion yn erbyn Walsall

Mae Casnewydd wedi ymestyn record ddiguro'r clwb yn Adran Dau wedi gêm ddi-sgôr gystadleuol yn Walsall.

Dydy tîm Michael Flynn heb golli mewn 14 o gemau yn y gynghrair ers mis Mawrth.

Jamille Matt gafodd y cyfle gorau i sgorio dros Yr Alltudion a bu'n rhaid i'r golwr Tom King arbed ymdrech dda gan Caolan Lavery dros Walsall.

Gan ganmol ymdrechion ei dîm, dywedodd rheolwr Casnewydd, Michael Flynn bod ennill pwynt oddi cartref nos Fawrth wedi ei foddhau mwy na'r triphwynt o ganlyniad curo Plymouth Argyle ddydd Sadwrn, o gofio bod nifer o'i chwaraewyr ddim ar gael.

Ond oherwydd canlyniadau eraill nos Fawrth yn yr un adran, mae Casnewydd wedi llithro o'r nawfed safle i'r 12fed safle yn y tabl.