Angen helpu menywod o gefndiroedd ethnig i gael gwaith

  • Cyhoeddwyd
Shavanah Taj
Disgrifiad o’r llun,

Shavanah Taj sy'n arwain Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ers 2013

Mae angen gwahaniaethu cadarnhaol i ffafrio merched o gefndiroedd lleiafrifol sy'n ceisio am swyddi, yn ôl y fenyw Fwslimaidd gyntaf i arwain undeb llafur yng Nghymru.

Yn ôl ystadegau diweddar mae merched du, Asiaidd neu o leiafrif ethnig (BAME) sy'n chwilio am gyflogaeth hyd at bum gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na'u cyfatebwyr gwyn.

Ond mae gwahaniaethu cadarnhaol (positive discrimination) yn anghyfreithlon fel mae pethau'n sefyll gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus (PCS) yng Nghymru: "Sut arall mae posib gweithredu newid?"

'Rhwystrau i'w goresgyn'

Mae hi hefyd yn dweud bod angen i gyrff a mudiadau ystyried ffyrdd o helpu unigolion BAME i symud yn eu blaenau gydol eu gyrfa.

"Ni ddylai gwahaniaethu cadarnhaol fod yn derm brwnt," meddai.

"Lle mae'r merched [BAME]? Dydyn nhw ddim yn yr ystafelloedd bwrdd, dydyn nhw ddim ar fyrddau mudiadau. Does dim Aelodau Cynulliad BAME benywaidd.

"Dydy e ddim oherwydd bod pobl yn analluog neu heb y sgiliau na'r hyfforddiant, ond mae'n amlwg bod yna rwystrau y mae'n rhaid i ni eu goresgyn."

Ychwanegodd Ms Taj ei bod yn teimlo bod rhaid iddi hi adael Cymru a magu profiad yn Llundain er mwyn codi i'r brig.

Beth mae'r adroddiad yn ei ddweud?

Mae'r adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru a'r elusen sy'n sicrhau datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, Chwarae Teg, yn edrych i'r ffactorau sy'n rhwystro merched BAME rhag cyfrannu i'r economi.

Mae pobl BAME yn cyfateb i 5% o boblogaeth Cymru, ond mae'r ganran yn uwch mewn dinasoedd fel Caerdydd (18.4%), Abertawe (9.5%) a Chasnewydd (8.8%).

Yn ôl Arolwg Poblogaeth Blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf 2017 a Mehefin 2018, roedd 4.3% o fenywod Prydeinig, gwyn yn ddi-waith.

Ond roedd y ffigwr yn achos menywod BAME yn llawer uwch ac roedd yna wahaniaethau hefyd rhwng gwahanol grwpiau ethnig.

Roedd 17.2% o fenywod o dras Pacistanaidd a Bangladeshaidd yng Nghymru heb waith a 25.8% o fenywod du neu fenywod Prydeinig, du.

Mae'r gwahaniaethau'n destun syndod a phryder i awdur yr adroddiad, Dr Hade Turkmen o Chwarae Teg, sy'n dweud nad yw grwpiau BAME "yn homogenaidd".

"Mae yna wahaniaethau o fewn gwahanol gymunedau ac mae angen datblygu polisïau penodol i dargedu'r menywod yma," meddai.

"Darlun cyffredinol yw hwn - mae angen rhoi lle i leisiau personol a deall: os ydyn nhw eisiau gweithio ond yn methu gweithio, pam hynny?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Hade Turkmen o blaid proses benodi lle mae pobl yn gallu ymgeisio am swyddi yn ddi-enw

Ychwanegodd Dr Turkmen bod lleisiau menywod BAME "yn aml yn cael eu hanhgofio fel rhan o'r broses gwneud penderfyniadau oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu cynrychioli ar lefelau uchaf busnes a llywodraethu yng Nghymru".

Mae dyletswyddau magu plant a gofalu am berthnasau, meddai, "yn rhwystr ddifrifol" i fenywod BAME o ddydd i ddydd.

Mae hi hefyd yn dadlau o blaid ceisiadau swydd di-enw, gan ddweud: "Mae yna risg i chi beidio â chyrraedd y rhestr fer, hyd yn oed, oherwydd mae eich enw yn awgrym o'ch cefndir ethnig neu'ch crefydd."

'Chi ddim mo'yn cael eich cau mas'

Gweithiwr ieuenctid yw Jaffrin Khan, o Gaerdydd, ond mae wedi newid ei chyfenw ar ffurflen gais am swydd yn y gorffennol.

Roedd hynny wrth iddi geisio am waith am y trydydd tro mewn siop adrannol.

Yn ystod cyfweliad fe ddatgelodd mai Khan ac nid Karl oedd ei chyfenw cywir ac fe gynigwyd y swydd iddi ar lafar.

Ond yna fe ddywedwyd wrthi bod y cwmni "wedi rhedeg mas o gytundebau".

Ffoniodd adran adnoddau dynol y cwmni a chael cytundeb yn y pen draw.

"Sa i'n gallu dweud os taw cyd-ddigwyddiad o'dd hynny," meddai.

"Y peth gwaethaf am fod yn ddynes â chroen tywyll [yw] dydych chi ddim mo'yn honni cam ar bob achlysur oherwydd… chi ddim mo'yn cael eich cau mas o unrhyw beth oherwydd eich bod wedi codi eich llais gormod."

Pynciau cysylltiedig