'Angen denu mwy o fenywod i swyddi amlwg'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i bleidiau gwleidyddol ddangos "cariad caled" wrth geisio annog menywod i mewn i swyddi amlwg mewn bywyd cyhoeddus, medd un elusen cydraddoldeb.
Dywedodd Cerys Furlong, prif weithredwr Chwarae Teg, bod menywod yn y lleiafrif o gymharu â dynion mewn sawl maes o fywyd cyhoeddus, ac y dylai pleidiau fod yn fwy "gweladwy" wrth fynd i'r afael â hynny.
Dywedodd: "Mae gwleidyddiaeth yn weladwy iawn, a phe byddai mwy o wleidyddion benywaidd yna fe fyddai menywod a sefydliadau eraill yn gallu cael ysbrydoliaeth o hynny."
Ar hyn o bryd mae ychydig dros chwarter o gynghorwyr Cymru yn fenywod. Mae 25 o'r 60 aelod Cynulliad a 9 o'r 40 aelod seneddol yn fenywod, ond o blith y 100 busnes mwyaf yng Nghymru dim ond 2% o brif weithredwyr sy'n fenywaidd.
Tair blynedd yn ôl fe wnaeth cyn-lywydd y Cynulliad, Y Fonesig Rosemary Butler, gyhoeddi cynllun i hyfforddi menywod i fynd i fywyd cyhoeddus.
Ond ychwanegodd Ms Furlong: "Mae'r modd y mae gwleidyddion yn cael eu dewis yn cael ei reoli gan y pleidiau sy'n dewis yr ymgeiswyr.
"Ry'n ni wedi gweld modelau gwahanol fel gefeillio a rhestrau byr benywaidd... mae'r pleidiau i gyd yn ymrwymo i geisio mwy o amrywiaeth ond dyw hynny ddim yn digwydd yn ddigon cyflym.
"Rhaid i'r pleidiau gwleidyddol gymryd golwg gadarn ar eu hunain a bod yn fodlon cael sgyrsiau anodd gyda'u haelodau a dweud 'os ydyn ni am weld y newid yma mae'n golygu tipyn o gariad caled' er mwyn gwneud i hynny ddigwydd."
Ddwy flynedd yn ôl fe gafodd Aileen Richards ei phenodi i fwrdd undeb Rygbi Cymru. Dywedodd wrth raglen The Wales Report ar BBC Cymru nad oedd hi'n credu mewn cwotâu na deddfwriaeth i fynd i'r afael â mater.
"Yn enwedig gyda merched rhaid i chi roi hyder iddyn nhw," meddai, "rhaid i chi roi anogaeth a mentora, oherwydd ry'n ni'n gwybod bod yr holl ymchwil yn dangos bod menywod yn llai hyderus wrth geisio am swyddi ym mha bynnag faes.
"Rhaid perswadio pobl mai dyma'r peth iawn i wneud. Felly mae'n rhaid i bobl gredu y byddwn ni'n rhedeg bwrdd yn well, yn rhedeg busnes gwell, yn rhedeg senedd well - beth bynnag y bo - am ei fod yn fwy amrywiol."
Gellir gwylio The Wales Report eto ar y BBC iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014