Enillydd The Apprentice i agor ffatri yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae enillydd cyfres deledu The Apprentice yn bwriadu agor ffatri newydd yng Ngheredigion i greu a phrosesu ei chynnyrch.
Ar hyn o bryd mae holl deisennau Alana Spencer yn cael eu cynhyrchu mewn becws o eiddo cwmni arall yn Y Fflint, cyn cael eu dosbarthu i werthwyr ledled Prydain.
Dydd Llun fe gymerodd hi berchnogaeth uned newydd ar ystâd ddiwydiannol Glanyrafon yn Aberystwyth, gyda'r bwriad o ddechrau pobi ym mis Hydref.
Fe fydd hi hefyd yn cyflogi pedwar o bobl leol ar y safle, yn ogystal ag agor siop fydd yn gwerthu'r cynnyrch unwaith yr wythnos.
"Wedi'r rhaglen, doeddwn i ddim yn gallu pobi popeth oedd ei angen yn fy nghegin i, felly roedd rhaid i mi ofyn i gwmni arall i bobi drosta i," meddai Ms Spencer, sydd yn 27 ac byw yn Aberystwyth gyda'i phartner.
"Fodd bynnag mae'r busnes wedi tyfu i'r pwynt nawr ble mae'n rhaid i mi gael rheolaeth lwyr o'r holl gynnyrch o fewn y brand, a gan fy mod yn byw yn Aberystwyth roeddwn i eisiau dod a'r gwaith cynhyrchu yma."
Ar hyn o bryd mae teisennau'r cwmni yn cael eu gwerthu drwy fasnachfraint.
Yn ogystal â hynny maen nhw hefyd yn ddiweddar wedi lansio bariau pryd-cyflym sy'n cael eu gwerthu mewn 20 o lefydd, gan gynnwys gorsafoedd Road Chef.
"Mae'r farchnad pryd-cyflym yn tyfu'n gyflym. Mae pobl mor brysur, ac er eu bod nhw dal eisiau bwyd o safon maen nhw ei eisiau'n sydyn iawn hefyd," meddai.
"Rydyn ni wedi gweld tyfiant anferth yn nifer y peiriannau coffi o safon sydd o gwmpas, ac mae pobl yr un mor barod i brynu bwyd o safon i gyd-fynd â'r ddiod yna."
Yr wythnos hon mae Ms Spencer wedi bod yn rheoli'r gwaith o weddnewid uned newydd sbon yn fecws gweithredol.
"Rydyn ni wedi llofnodi cytundeb am 10 mlynedd, felly ein bwriad ydy bod yma am yr hir dymor.
"Mae modd ehangu wrth i'r busnes dyfu gan fod digon o le yma."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dysgu Cymraeg
Er bod Alana wedi bod yn byw yn Aberystwyth ers ei bod yn 13 oed, nid yw hi'n medru'r Gymraeg.
Mae hi nawr wedi dechrau ar gwrs Cymraeg, ac mae hi hefyd am ariannu cwrs dysgu'r Gymraeg i chwech o bobl eraill.
"Dwi ddim yn disgwyl dod yn awdur yn y Gymraeg, ond fy mhrif reswm dros ddysgu'r iaith ydy fy mod yn medru gweini rhywun a fydd yn dod i'r siop yn y Gymraeg os ydyn nhw'n dymuno," meddai.
"Rydyn ni wedi cael dros 100 o geisiadau gan bobl sydd eisiau dysgu'r Gymraeg.
"Ar y cychwyn ro'n i'n eitha' amheus, am fod dysgu iaith yn cymryd amser ac ymdrech, ac mae pawb mor brysur, ond mae'n ymddangos ein bod ni'n wynebu gorchwyl anodd drwy orfod dewis chwech o'u plith.
"Fy nymuniad yw y byddwn ni'n saith wedyn, ar ddiwedd y flwyddyn o ddysgu, yn medru cael sgwrs gyda'n gilydd yn y Gymraeg - byddai hynny'n wych."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2016