Dirgelwch wedi i ddwy 'het Jemima Nicholas' ddod i'r fei

  • Cyhoeddwyd
yr het oedd gan Hywel DaviesFfynhonnell y llun, Hywel Davies
Disgrifiad o’r llun,

Het Jemima Nicholas oedd ym meddiant Hywel Davies cyn iddo'i rhoi i'r ocsiwn

Mae het Gymreig draddodiadol yr arwres o Sir Benfro, Jemima Nicholas, yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus sydd 'na.

Ond nawr mae wedi dod i'r amlwg y gallai mwy nag un ohonyn nhw dal fod mewn bodolaeth - a hynny wedi i un ohonynt gael ei gwerthu mewn ocsiwn yn ddiweddar.

Yn gynharach fis yma fe wnaeth dynes o Awstralia dalu £5,000 i brynu het o'r 18fed Ganrif ar ôl iddi gael ei rhoi i'r arwerthiant gan ddyn lleol, Hywel Davies.

Daeth hynny i sylw rhai o gyn-brif athrawon Ysgol Iau Abergwaun, sy'n dweud bod ganddyn nhw hefyd draddodiad o basio het gan Jemima Nicholas ymlaen drwy'r cenedlaethau.

'Pawb yn gwybod'

Daeth Jemima Nicholas yn adnabyddus am ei rhan yn gwrthsefyll ymgais gan fyddin o Ffrancwyr i lanio yn Sir Benfro yn 1797.

Yn ôl y stori fe lwyddodd i ddal dwsin o Ffrancwyr meddw gyda dim ond fforch wair, yn rhannol am fod y milwyr yn credu bod ei gwisg Gymreig draddodiadol yn debyg i lifrai milwyr Prydain.

Bu farw'n 82 oed, ac mae ei charreg bedd dal i'w weld hyd heddiw ym mynwent Eglwys Santes Fair yn Abergwaun.

Mewn ocsiwn eleni i godi arian ar gyfer adnewyddu Eglwys Sant Brynach ym mhentref Nanhyfer, un o'r eitemau gafodd ei roi oedd het gan Jemima Nicholas oedd wedi dod i Hywel Davies gan ei fam.

Esboniodd Mr Davies wrth BBC Cymru Fyw bod Jemima Nicholas wedi marw heb blant, ond fod yr het wedi cael ei phasio lawr drwy ei theulu estynedig.

Roedd mam Mr Davies yn ffrindiau gydag un o'r disgynyddion hynny, ac fe gafodd yr het ei phasio iddi hi ymhen amser.

"Roedd yn adnabyddus fel het Jemima, roedd pawb yn gwybod amdano fel ei het hi," meddai Mr Davies. "Allai eich sicrhau chi ei fod yn un go iawn."

Ffynhonnell y llun, Hywel Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mam Hywel Davies, Barbara, yn gwisgo het Jemima Nicholas pan oedd hi'n tua 15 oed

Dywedodd fod arbenigwr ar hetiau wedi cadarnhau iddo ei fod yn dyddio yn ôl i tua 1750, ac mai "prin iawn ydy'r hetiau" o'r oes honno oedd wedi goroesi hyd heddiw.

"Roedd e wedi bod mewn cwpwrdd ers blynyddoedd gennym ni [felly] nes i benderfynu mai'r peth gorau oedd ei roi i'r apêl," meddai.

"Mae'n dda iawn ei fod wedi gwerthu am £5,000."

Cafodd yr het ei phrynu gan Denise Hutton, oedd wedi hedfan yr holl ffordd o Awstralia i'w nôl hi am fod ganddi hi gysylltiad teuluol gyda Jemima Nicholas.

"Pwrpas fy ymdrechion i hawlio'r het oedd i'w ddychwelyd yn ôl i deulu Jemima Nicholas," meddai wrth bapur y County Echo ar ei hymweliad.

'Neb yn sicr'

Ers i'r het honno ddod i'r amlwg fodd bynnag, mae eraill yn yr ardal hefyd wedi honni bod ganddyn nhw het Jemima Nicholas yn eu meddiant.

Roedd Alun Davies yn gyn-brifathro yn Ysgol Iau Abergwaun, ac yn dweud fod het oedd yn cael ei chadw yn yr ysgol ar y pryd wedi cael ei phasio o brifathro i brifathro.

"Roedd pob prifathro oedd wedi bod [wrth y llyw] wedi cael y cyfarwyddyd gan y prifathro blaenorol mai het Jemima Nicholas oedd hon," meddai.

Ychwanegodd mai'r gred oedd bod hyn wedi bod yn digwydd ers o leiaf canrif, gyda phob pennaeth yn cael y dasg o'i chadw hi'n saff ar gyfer yr un nesaf.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Iau Abergwaun
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r het wedi'i chadw'n saff gan y pennaeth Tim Owen

Pan symudwyd yr ysgol i safle newydd - Ysgol Glannau Gwaun heddiw - fe gafodd safle'r hen adeilad ei chlirio ac fe wnaeth olynydd Mr Davies fel pennaeth, Tim Owen, gadw'r het yn saff.

"Mae e mewn cyflwr gwael," meddai Mr Owen. "Roedd e wedi cael ei ddefnyddio mewn cyngerdd ysgol yn 1982 mae'n debyg, ond ers hynny roedd e jyst wedi bod mewn cwpwrdd."

Ychwanegodd ei fod ef a Mr Davies wedi cael sgwrs am y peth eto pan wnaethon nhw glywed am yr het oedd yn cael ei werthu yn yr ocsiwn.

Ond byddai'n anodd gwybod i sicrwydd pa un oedd het wreiddiol Jemima Nicholas - neu hyd yn oed a oedd y ddau wedi perchen iddi ar ryw bwynt.

"Does neb yn sicr iawn, dim ond y stori sydd wedi'i basio ymlaen," meddai.