Sussex yn trechu Morgannwg yn y T20 yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg yn parhau heb fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth y T20 y tymor yma ar ôl cael eu trechu gan Sussex yng Ngerddi Soffia ddydd Llun.
Fe wnaeth Morgannwg osod cyfanswm o 174-4 yn eu 20 pelawd, gyda Shaun Marsh (52) a'r capten Colin Ingram (50) yn cael hanner canrif yr un.
Ond llwyddodd yr ymwelwyr i gyrraedd y targed o 175 yn hawdd, gydag Alex Carey â'r sgôr fwyaf gyda 61 rhediad.
Fe wnaethon nhw gyrraedd 176-3 mewn 16.5 pelawd, gan olygu bod Morgannwg wedi colli wyth o'u 13 gêm yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.