Canfod 750 cilogram o gocên ar gwch hwylio yn Abergwaun
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn yn y ddalfa a phedwar o bobl eraill wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wedi i oddeutu 750 cilogram o'r cyffur cocên gael ei ddarganfod ar gwch hwylio oedd wedi angori oddi ar arfordir Sir Benfro.
Cafodd y cyrch ei gynnal ym Mae Abergwaun dan arweiniad yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol (NCA) wedi i'r awdurdodau dderbyn gwybodaeth bod cwch yn cludo llwyth anferthol o gyffuriau i'r Deyrnas Unedig o Dde America.
Dyma un o'r darganfyddiadau mwyaf erioed o gyffuriau yn y DU.
Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr ymchwiliadau'r NCA, Craig Naylor bod y cyrch yn dilyn ymgyrch hirdymor a bod maint sylweddol o gyffuriau wedi eu hatal rhag cyrraedd y strydoedd.
Mae yna amcangyfrif bod y cyffuriau ar fwrdd y cwch yn werth tua £60m ar y stryd.
Mae swyddogion fforensig eisoes wedi symud 250 cilogram o gocên o'r cwch ac yn disgwyl y bydd y gwaith o symud y gweddill yn parhau tan ddydd Iau.
Roedd y cwch o'r enw Atrevido tua hanner milltir oddi ar yr arfordir pan aeth swyddogion ffiniau arni a'i hebrwng i borthladd Abergwaun ar gyfer archwiliad.
Daeth swyddogion o hyd i nifer o becynnau o bowdwr gwyn ymhob rhan o'r cwch, ac mae profion fforensig wedi cadarnhau mai cocên yw'r powdwr.
Mae swyddogion Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn bresennol yn yr harbwr.
Mae dau ddyn 53 a 41 oed a gafodd eu harestio ar y cwch yn cael eu holi yn y ddalfa.
Cafodd pedwar person arall - tri dyn 23, 31 a 47 oed a dynes 30 oed - eu harestio yn Lerpwl a Loughborough, a'u rhyddhau ar fechnïaeth tan ddiwedd Medi.
Dywedodd Mr Naylor: "Mae hwn yn helfa sylweddol o gocên, a fyddai wedi creu degau o filiynau o bunnau mewn elw troseddol.
"Roedd bwriad i werthu'r cyffuriau yma ar strydoedd y DU, gan arwain at drais ac ecsploetio sylweddol. Hoffwn ddiolch i bawb fu'n rhan o'u hatal rhag cyrraedd pen eu taith."