Carchar am achosi 'anafiadau enbydus' i swyddog yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 35 oed o Sir Conwy wedi cael ei garcharu ar ôl cyfaddef iddo yrru'n beryglus ac achosi anafiadau difrifol i drefnydd digwyddiadau gydag Urdd Gobaith Cymru.
Cafodd Matthew Barnicott, o Ddolwyddelan, ddedfryd o ddwy flynedd a phedwar mis o garchar ar ôl taro car Alaw Llwyd Owen ar ffordd wledig yn ardal Bylchau, ger Dinbych, fis Hydref y llynedd.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Barnicott wedi pasio car a cheisio mynd heibio lori, gan ddiweddu ar ochor anghywir o'r A543 ar ran o'r ffordd oedd wedi'i guddio oherwydd pant, a hynny ar noson niwlog.
Dywedodd y Barnwr Huw Rees bod "lefel yr anaf yn yr achos yma wedi arwain at y canlyniadau mwyaf enbydus i'r ddynes ifanc yma", gan "droi ei bywyd wyneb i waered".
Roedd Miss Owen, sy'n 31 oed ac o Ddinbych, yn teithio adref o'i gwaith yn Y Bala tua 18:15 ar 2 Hydref 2018 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Bu'n rhaid i griw tân ei thorri o'i char Peugeot 308 coch.
Dywedodd Richard Edwards ar ran yr erlyniad bod Miss Owen wedi gorfod cael llawdriniaeth at anafiadau niferus i'w phen, bol, breichiau a choesau.
Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y llys ar ei rhan, dywedodd Miss Owen ei bod yn gorfod byw gyda'i rhieni er mwyn iddyn nhw ei chefnogi.
Mae'r gwrthdrawiad wedi effeithio ar ei golwg a'i chlyw, ac mae ei chyflwr wedi ei hatal rhag mynd yn ôl i weithio a chymryd rhan mewn gweithgareddau cerdd, gan gynnwys chwarae'r piano.
Bu'n rhaid iddi fethu taith i Iwerddon gyda Chôr Bro Cernyw, ac fe glywodd y llys y gallai gymryd hyd at 18 mis iddi allu byw ei bywyd arferol unwaith eto. Roedd y diffynnydd hefyd yn anymwybodol wedi'r gwrthdrawiad, ac fe dreuliodd yntau 10 diwrnod yn yr ysbyty.
'Wynebu rhagor o driniaeth'
Dywedodd James Coutts ar ran yr amddiffyn bod Barnicott yn ofidus eithriadol a gwirioneddol edifar am yr hyn a wnaeth, ac yn derbyn na allai ddadwneud y niwed i Miss Owen.
Doedd yna ddim awgrym, meddai, bod y diffynnydd wedi torri'r cyfyngiad cyflymdra na gyrru mewn ffordd ymosodol cyn taro'r cerbyd arall.
Dywedodd y barnwr bod bywyd Miss Owen "wedi dod i stop am y tro o ran cyflogaeth ac annibyniaeth".
"Roedd hi mewn swydd roedd hi'n ei charu, gan deithio hyd a lled Cymru, ond nawr mae'n wynebu rhagor o driniaeth ac apwyntiadau meddygol.
"Roedd lefel y niwed yn yr achos hwn yn uchel oherwydd yr anafiadau enbydus."
Mae Barnicott hefyd wedi cael ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd a dau fis, a bydd yn rhaid iddo basio prawf estynedig cyn cael gyrru eto.