Cynlluniau i ddymchwel gwesty gwag yn Harlech

  • Cyhoeddwyd
St DavidsFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Gwesty Dewi Sant ei adeiladu yn 1910

Gallai gwesty sydd wedi bod yn wag ers degawd yng Ngwynedd gael ei ddymchwel o fewn wythnosau.

Roedd datblygwyr eisiau adeiladu gwesty newydd ar safle Gwesty Dewi Sant yn Harlech, ond chafodd y cynlluniau dim ei gwireddu.

Fe gafodd gwmni Aitchison Associates o Gibraltar orchymyn i ddymchwel y gwesty gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nôl yn 2015 am resymau diogelwch.

Mae cynlluniau cychwynnol eisoes ar droed i ddymchwel yr adeilad.

"Cyn belled fod y cynlluniau yma'n foddhaol, bydd y gwaith dymchwel yn digwydd ar ddechrau mis Medi," medd adroddiad gan y pwyllgor cynllunio lleol.

Mae'r awdurdod yn dweud fod yr "edrychiad amhrydferth yn amharu ar yr ardal leol ac mae'n rhwystro datblygiadau pellach yn Harlech".

Hyd yma mae Aitchison Associates wedi talu £21,900 mewn dirwyon am fethu cydymffurfio â'r rhybudd gorfodaeth.