Rhybudd teithio cyn gêm rygbi a ras 10K yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd degau o filoedd o gefnogwyr yn heidio i Stadiwm Principality ddydd Sadwrn

Bydd nifer o ffyrdd ynghau yng Nghaerdydd dros y penwythnos wrth i ddau ddigwyddiad mawr gael eu cynnal.

Fe fydd degau o filoedd o gefnogwyr yn heidio i Stadiwm Principality ddydd Sadwrn wrth i Gymru herio Iwerddon fel rhan o'u paratoadau ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan fis nesaf.

Bydd y mwyafrif o ffyrdd yng nghanol y ddinas ynghau rhwng 11:00 a 17:30, gyda'r gic gyntaf yn y stadiwm am 14:30.

Yna fe fydd ras redeg 10K Caerdydd yn cael ei chynnal ddydd Sul, gyda ffyrdd yn cau rhwng 19:00 nos Sadwrn a 18:00 ddydd Sul.

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio pobl i gynllunio o flaen llaw a disgwyl rhagor o draffig.

9,000 o redwyr

Mae Undeb Rygbi Cymru yn cynghori cefnogwyr i gyrraedd y stadiwm yn gynnar ddydd Sadwrn a "gadael bagiau mawr gartref" er mwyn hwyluso cael mynediad.

Mae disgwyl i thua 9,000 o bobl i gymryd rhan yn y ras 10K ddydd Sul, sy'n dechrau o Rodfa Brenin Edward VII am 10:00 yn dilyn ras hwyl 2K am 09:15.

Mae'r llwybr y ras yn mynd o amgylch Stadiwm Principality cyn teithio fyny Heol y Gadeirlan a chaeau Llandaf.

Yna fe fydd yn troi yn ôl am y ddinas trwy gaeau Pontcanna ac ar hyd Stryd y Castell, gan orffen ar Rodfa'r Amgueddfa.