Batwyr Morgannwg yn perfformio yn gêm olaf y T20
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Morgannwg aros tan y gêm olaf er mwyn rhoi eu perfformiad orau gyda'r bat yng nghystadleuaeth y T20 wrth guro Hampshire yng Ngerddi Soffia nos Wener.
Colin Ingram (44) a David Lloyd (4) yn taro pedwar chwech yr un, a hynny ar ôl i'r batwyr agoriadol Nick Selman a Shaun Marsh gyfranu dros 30 yr un.
Fe wnaeth Morgannwg gyrraedd 215 am bump gyda Chris Cooke yn taro 45.
Buddugoliaeth o 28 rhediad, ar ôl i Hampshire gyrraedd 188 am 8.