Gyrrwr lori wedi marw ar ôl mynd oddi ar ochr yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr lori wedi marw ar ôl i'w gerbyd fynd oddi ar ochr y ffordd ar yr M4 ger Pont Tywysog Cymru.
Fe wnaeth y digwyddiad achosi problemau traffig sylweddol gyda dwy ochr y bont rhwng Cymru a Lloegr ynghau o ganlyniad i'r digwyddiad fore Mercher.
Dywedodd Heddlu Gwent fod y lori wedi mynd i lawr llethr ger ochr y ffordd ar ochr Cymru'r bont yn Sir Fynwy.
Cafodd y dyn oedd yn gyrru'r lori ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd mewn ambiwlans awyr, ble bu farw o'i anafiadau.
Bu'n rhaid cau'r bont wedi'r ddamwain, gyda'r lon ddwyreiniol yn ailagor tua 17:30, ond bu'r lon orllewinol i mewn i Gymru ynghhau tan tua 02:30 fore Iau.
Cafodd cerbydau oedd teithio tua'r gorllewin yn cael eu dargyfeirio i'r hen bont Hafren.
Yn ôl Highways England, sy'n gyfrifol am Bont Tywysog Cymru, roedd tagfeydd o bedair milltir ar yr M4 i gyfeiriad Cymru ddiwedd prynhnawn Mercher.
Roedd y problemau hefyd yn effeithio ar yr M5, gyda thagfeydd o chwe milltir ger Bryste i bobl yn teithio i gyfeiriad y gogledd.
Dywedodd yr heddlu na gafodd unrhyw yrwyr eraill eu hanafu.
Bu traffig trwm i'r ddau gyfeiriad rhwng Casnewydd a Bryste yn dilyn y gwrthdrawiad am tua 10:30.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion neu unrhyw un sydd â fideo dashcam o'r digwyddiad.