Gwrthdrawiad M4: Cyhoeddi enw gyrrwr lori fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau enw'r gyrrwr lorri a fu farw ar ôl i'w gerbyd fynd oddi ar ochr y ffordd ar yr M4 ger Pont Tywysog Cymru ddydd Mercher.
Roedd Florin Marius Muntean yn 49 oed ac yn dod o Rwmania.
Cafodd ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru ond fe gadarnhawyd yno ei fod wedi marw.
Mae teulu Mr Muntean wedi cael gwybod am y farwolaeth wedi i swyddogion heddlu arbenigol gysylltu â nhw.
Mae'r heddlu'n parhau i ofyn am wybodaeth a lluniau dashcam gan y cyhoedd all eu helpu gyda'r ymchwiliad i'r achos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2019