Cyn-gapten RGC yn gwadu cyhuddiad o ymosod ar blismon
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten Rygbi Gogledd Cymru wedi gwadu cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad i blismon.
Fe wnaeth Maredydd Francis, 25 oed o Southsea, Wrecsam, ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug drwy gyswllt fideo o garchar Alcourse yn Lerpwl ddydd Gwener.
Clywodd y llys fod Mr Francis wedi gafael yn y plismon rhwng ei goesau, ei godi a'i roi i'r llawr fel mewn "tacl rygbi".
Yn ôl yr erlyniad, fe wnaeth y diffynnydd ymosod ar PC Richard Priamo ar 3 Awst gan ei ddyrnu a'i gicio.
Honnir fod y plismon wedi cael ei daro'n anymwybodol a bu'n rhaid iddo gael triniaeth ysbyty.
Dywedodd Phillip Tully ar ran yr amddiffyniad fod ei gleiant yn ceisio amddiffyn ei hun a bydd yn pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad.
Cafodd Mr Francis ei gadw yn y ddalfa a bydd yr achos llawn yn dechrau yn Llys y Goron Caernarfon ar 3 Chwefror.