Annog cydweithio i ddiogelu dyfodol martiau gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr, arwerthwyr ac awdurdodau lleol yn cael eu hannog i weithio ar y cyd er mwyn diogelu dyfodol martiau gwledig Cymru.
Bydd y farchnad da byw ola'n cael ei chynnal yn Aberteifi ddydd Llun, ac mae mart Y Bont-faen ar fin cau hefyd.
Rhagweld "rhagor o golledion" mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).
Ymysg y rhesymau mae'r awgrym bod mwy o ffermwyr yn gwerthu'n uniongyrchol i ladd-dai a phroseswyr cig.
Ond mae colli mart lleol yn ergyd enfawr i'r diwydiant a'r trefi lle maen nhw'n cael eu cynnal, yn ôl UAC.
"Mae'n broblem - dyw'r genhedlaeth ifanc ddim eisiau dod i'r marchnadoedd yma," meddai Dyfan Davies o gwmni arwerthwyr JJ Morris, sy'n gyfrifol am fart Aberteifi.
Dywedodd bod y penderfyniad i gau'r safle wedi bod yn "anodd ofnadwy", ond bod costau cynyddol a phrinder stoc wedi golygu bod hynny'n anorfod.
Mae niferoedd y gwartheg, yn enwedig, wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd y problemau yn lleol gyda'r diciâu.
Mae ffermydd, sydd ag anifeiliaid yn dioddef o'r clefyd, yn methu gwerthu drwy fartiau er mwyn ceisio atal TB rhag lledu.
Dweud ei fod e'n "methu credu" bod y mart yn cau, wnaeth Alan Thomas, ffermwr o Landeilo.
"Dwi wedi bod yn dod yma ers 40 o flynyddoedd - mae'n jobyn dod i delerau â'r peth," meddai.
Prynu lloi ifanc mae Mr Thomas, i'w cludo i ffermydd lleol sydd wedi colli lloi dan fuchod sugno dros y penwythnos.
"Does 'na ddim mart arall ar gyfer lloi ar ddydd Llun felly nawr mae'r rhan yna o 'musnes i wedi mynd," meddai.
Diwrnod 'trist'
Un arall fydd ar ei cholled oherwydd cau'r mart yw Teleri Jenkins-Davies, sy'n gyfrifol am y fan arlwyaeth ar y safle.
"Mae'n ddiwrnod trist iawn i fod yn onest - yn ergyd i'r gymuned gyfan - a hynny achos bod y lle ma'n fwy na rhywle i ddod â stoc. Mae'n le lle gall ffermwyr ddod i siarad, cael bach o banter, a rhannu eu problemau hefyd.
"Ac mae hynny'n bwysig achos maen nhw'n gallu bod yn unig iawn ar eu ffermydd."
Cytuno y byddai sawl un yn gweld eisiau'r mart mae Elfan Owens o Aberporth.
"Roedd Aberteifi yn arfer bod yn brysur iawn ar ddiwrnod mart, doeddech chi'n methu parcio unrhywle yn dre a roedd y siopau'n llawn."
"Ond mae'r hen draddodiad o fynd â da i'r farced yn dod i ben, a mwy o bobl yn gwerthu ar y bachyn yn hytrach nac yn fyw - mae'n lladd y martiau."
Mae nifer yma'n beio'r archfarchnadoedd mawr am wrthod prynu drwy fartiau da byw, gan orfodi'r lladd-dai sy'n eu cyflenwi i ddelio'n uniongyrchol â ffermydd.
"Mae gan yr archfarchnadoedd stronghold ar y ffermwyr," meddai Euros Evans o Gastellnewydd Emlyn, "ond gwerthu drwy fart yw'r ffordd gorau fydden i'n dychmygu er mwyn sicrhau pris teg am eich cynnyrch."
Edrych i'r dyfodol
Yn Y Bont-faen, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dweud ei bod yn awyddus i adeiladu maes parcio ar gyfer siopwyr ar safle'r mart.
Byddai'n golygu bod ffermwyr lleol yn gorfod teithio'n llawer pellach i ddod o hyd i farchnad anifeiliaid - Rhaglan yn Sir Fynwy, Caerfyrddin ac Aberhonddu yw'r opsiynau agosaf.
Yn ôl dirprwy llywydd UAC Brian Thomas mae'n arwydd o'r newidiadau sy'n digwydd ym myd amaeth, ond ei bod hi'n "allweddol i sicrhau bod po fwyaf a sy'n bosib o'r martiau yn parhau".
Fe allai olygu symud at arwerthiannau mwy arbenigol, yn cael eu cynnal bob pythefnos neu fis i sicrhau niferoedd, meddai.
"Mae'n rhaid i ni feddwl am y peth a fallai bod rôl i'r ddau undeb i'w chwarae.
"Ond mae'n anodd gwybod beth i'w wneud achos mae 'na gwmnïau preifat yn berchen ar rai, tra bod eitha tipyn o'r martiau yn nwylo cynghorau lleol."
Ond nid yw pob un o'r 35 mart yng Nghymru yn dioddef. Mae Rhys Davies, cadeirydd Sefydliad Arwerthwyr Da Byw Cymru yn honni bod 'na "nifer o straeon positif" i'w hadrodd.
"Ym Machynlleth, er enghraifft, mae niferoedd wedi cynyddu - gyda mwy o ddefaid yn dod yma eleni o ardal ehangach."
Tra bod rhai marchnadoedd "dan bwysau", yn enwedig oherwydd problemau fel y diciâu, fe ddywedodd bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos cynnydd o 9% yn niferoedd yr ŵyn tymor newydd gafodd eu gwerthu mewn martiau yng Nghymru o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
"Mae 'na fuddiannau enfawr i gael nifer o fartiau bychain o amgylch y wlad, yn enwedig mewn cyfnod lle mae 'na gymaint o ffocws ar ein ôl-troed carbon," meddai.