Gwrthod datganoli treth awyr wedi pryder am effaith ar Fryste

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pryder Llywodraeth y DU ydy y byddai datganoli'r dreth yn cael effaith negyddol ar Faes Awyr Bryste

Mae galwadau am ddatganoli pwerau dros drethi ar hediadau i Gymru wedi eu gwrthod gan Lywodraeth y DU.

Roedd adroddiad ym mis Mehefin yn dadlau y dylai gweinidogion Cymru reoli'r dreth teithwyr awyr erbyn 2021.

Ond mae gweinidogion Prydeinig wedi dweud eu bod yn bryderus y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r pwerau i hyrwyddo Maes Awyr Caerdydd ar draul Maes Awyr Bryste.

Mae'r penderfyniad yn "gwbl afresymol" yn ôl Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans.

'Penderfyniad afresymol'

Mae teithwyr ar hediadau dros 2,000 o filltiroedd yn talu treth o £78, tra bod teithwyr dosbarth cyntaf ar hediadau pell yn talu £172.

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi bod yn galw am ddatganoli pŵer dros y dreth ers tro, gan ddweud y gallai ei leihau roi hwb i Faes Awyr Caerdydd.

Llywodraeth Cymru sydd berchen y maes awyr ers 2013.

Mae llythyr Simon Clarke AS, ysgrifennydd yn y Trysorlys, yn dweud bod meysydd awyr Caerdydd a Bryste, sydd tua 60 milltir o'i gilydd, yn gwasanaethu'r un farchnad.

Pryder gweinidogion Prydeinig ydy y byddai gallu Llywodraeth Cymru i leihau'r dreth i hyrwyddo Maes Awyr Caerdydd "yn naturiol yn cael effaith ar Faes Awyr Bryste".

Mae'r dreth wedi ei datganoli yn llwyr neu'n rhannol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ond fe wnaeth Llywodraeth Yr Alban benderfynu peidio â thorri'r dreth ar ôl cyhoeddi argyfwng hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datgan bod argyfwng hinsawdd yma.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates bod gwrthod datganoli yn cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru dramor

Yn y gorffennol mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Cymru, Ken Skates, wedi dweud y byddai ond yn torri'r dreth petai'n annog teithwyr i hedfan o Gaerdydd yn lle gyrru i feysydd awyr eraill, ac felly bod llai o allyriadau carbon yn sgil y teithiau ffordd byrrach.

Wedi'r penderfyniad, dywedodd Ms Evans bod "Llywodraeth y DU yn rhedeg allan o resymau dros beidio â rhoi Cymru ar yr un lefel â'r Alban a Gogledd Iwerddon".

Ychwanegodd bod safbwynt Llywodraeth y DU yn "groes i resymeg".

Dywedodd Mr Skates bod "penderfyniad afresymol" Llywodraeth y DU yn "cyfyngu ar ein gallu i hyrwyddo Cymru i farchnadoedd tramor ar adeg pan mae angen gwneud hynny fwyaf".