Rhybudd melyn am fellt a tharanau yn y de

  • Cyhoeddwyd
Swyddfa DywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn grym tan 20:00 ddydd Llun

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am gawodydd trwm, cenllysg a mellt a tharanau ar gyfer de Cymru.

Fe allai'r tywydd achosi oedi ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd ynghyd â'r posibilrwydd o lifogydd a nam ar gyflenwadau trydan.

Mae'r rhybudd yn effeithio ardaloedd rhwng Abertawe a Chasnewydd rhwng 10:00 a 20:00 ddydd Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd bod mellt a chenllysg hefyd yn bosibilrwydd.

Mae'r rhybudd ar gyfer siroedd Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Merthyr, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf Abertawe a Bro Morgannwg.