David Jones i gamu i lawr fel AS Gorllewin Clwyd
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, David Jones wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Cafodd cyn-ysgrifennydd Cymru ei ethol fel AS yn 2005, a chyn hynny bu'n Aelod Cynulliad rhanbarthol dros Ogledd Cymru am gyfnod yn dilyn ymddiswyddiad Rod Richards.
Bu'r Ceidwadwr hefyd yn Weinidog Brexit i Lywodraeth y DU am gyfnod.
"Yn 67 oed, rwyf wedi penderfynu ei bod hi'n amser i roi gwybod y byddai'n camu o'r neilltu er mwyn galluogi Cymdeithas y Ceidwadwyr Gorllewin Clwyd i ddewis fy olynydd," meddai.
"Ar lefel bersonol, rwy'n gobeithio hefyd treulio mwy o amser gyda fy nheulu, sydd wedi bod yn gefnogol iawn i mi dros yr holl flynyddoedd."
Dywedodd mai gwasanaethu'r ardal oedd "anrhydedd mwyaf fy mywyd", gan ychwanegu y byddai'n parhau i gefnogi'r Prif Weinidog, Boris Johnson gyda thrafodaethau Brexit.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2017