Pencampwriaeth y Siroedd: Perfformiad addawol gan Forgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi cyrraedd 44-2 ar ôl perfformiad addawol gyda'r bêl yn erbyn Sir Gaerwrangon ddydd Mawrth.
Ar ddiwrnod cyntaf y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd, fe wnaeth Morgannwg fowlio'r tîm cartref allan am 205.
Michael Hogan (4-53) a Timm van der Gugten (3-44) oedd y gorau o fowlwyr yr ymwelwyr, ac roedd dwy wiced i Ruaidhri Smith hefyd.
Collodd Morgannwg Nick Selman (6) a Tom Cullen (10) cyn gorffen y chwarae am y dydd ar 44.
Kraigg Brathwaite (15 hfa) a David Lloyd (9 hfa) fydd yn parhau i Forgannwg fore Mercher, 161 rhediad y tu ôl i Sir Gaerwrangon.