Gŵyl newydd i 'ddeffro' ymwybyddiaeth o hanes Cymru
- Cyhoeddwyd
Amcan gŵyl newydd yng Nghorwen dros y penwythnos ydy "deffro" ymwybyddiaeth pobl o hanes Cymru.
Ymhlith atyniadau Gŵyl y Fflam mae ailgread o lys Owain Glyndŵr yn Sycharth, Powys.
Gan ddefnyddio technoleg rithwir, bydd cyfle i bobl grwydro'r llys fel yr oedd yng nghyfnod y tywysog.
Mae'r ŵyl, yn ôl un o'r trefnwyr, hefyd yn ffordd o geisio "bywiogi" tref Corwen.
Er mai yn Sycharth ger Llansilin ym Mhowys oedd llys enwocaf Glyndŵr, roedd dalgylch Corwen yn gadarnle iddo.
"Roedd o'n un o feibion tywysogion Powys oedd yn yr ardal yma," meddai Dylan Jones, un o drefnwyr Gŵyl y Fflam.
"Cafodd ei goroni ddim yn bell o 'ma, rhyw ddwy filltir i ffwrdd, yn 1400 - a dyna pryd 'ddaru'r helynt ddechrau."
Aeth Owain Glyndŵr ymlaen i arwain gwrthryfel yn erbyn rheolaeth coron Lloegr a rhai o arglwyddi'r Gororau am tua degawd.
'Arwr cenedlaethol'
Heddiw, mae cerflun amlwg ohono yng nghanol Corwen, ond mae lle i godi ymwybyddiaeth o'r hanes, yn ôl Gwyneth Ellis, sydd hefyd ymhlith y trefnwyr.
"Yn amlwg, mae 'na lawer o bobl yn yr ardal sy'n ymfalchïo yn yr hanes, ond mae 'na lawer o bobl sydd ddim yn gwybod yr hanes," meddai.
"A dwi'n meddwl bod rhywbeth fel hyn yn mynd i ddeffro'r hanes ym meddyliau pawb."
Ychwanegodd bod angen i Gorwen gymryd mantais o'r cysylltiad â'r tywysog.
"Mae angen i drefi ffeindio rhywbeth i ddenu pobl i fewn," meddai Ms Ellis.
"Yng Nghorwen, mae gennym ni'r arwr cenedlaethol 'ma, felly mae'n bwysig ein bod ni'n ei ddefnyddio i fywiogi canol y dre'."
Mae'r ailgread o'r llys yn Sycharth wedi ei ddatblygu gan gwmni Vivid Virtual Reality, ac mae wedi ei seilio'n rhannol ar ddisgrifiad cyfoes y bardd Iolo Goch o'r llys.
Ymhlith yr atyniadau eraill yng Ngŵyl y Fflam, sy'n cael ei chynnal ar 14 a 15 Medi, mae darlithoedd, darlleniadau ac efelychiadau o frwydrau canoloesol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd20 Medi 2018
- Cyhoeddwyd6 Awst 2016