Diwrnod anodd i fatwyr Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae tîm criced Morgannwg yn wynebu brwydr yn dilyn diwrnod siomedig yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Gaerwrangon.
Fe ddechreuodd Morgannwg y dydd ar 44-2 wrth geisio cyrraedd cyfanswm batiad cyntaf y tîm cartref o 205.
Siomedig oedd y batio, ac er gwaethaf ymdrechion rhai o'r bowlwyr ar ddiwedd y batiad, roedd Morgannwg i gyd allan am 193.
Roedd hynny'n arbennig o siomedig gan na lwyddodd Morgannwg i sicrhau pwynt bonws am eu batio.
Dechreuodd Sir Gaerwrangon eu hail fatiad felly gyda mantais o 12 rhediad yn unig, ond fe wnaeth y ddau fatiwr agoriadol basio'r 50 wrth i'r tîm cartref gyrraedd 153-2 erbyn i'r chwarae ddod i ben ddydd Mercher.
Mae gan Sir Gaerwrangon fantais o 165 gydag wyth wiced mewn llaw ar ddechrau'r trydydd diwrnod felly.
Wrth i Forgannwg barhau i geisio am ddyrchafiad i Adran Gyntaf y Bencampwriaeth, fe fydd angen ymdrech arwrol am y ddau ddiwrnod sy'n weddill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2019