Dros 2,000 yn rasio Ironman Cymru yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae'r cystadleuwyr yn rasio ar hyd y ffyrdd o amgylch Dinbych-y-pysgod
Mae dros 2,000 o athletwyr yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Ironman Cymru wrth i'r ras 140 milltir gael ei gynnal ddydd Sul.
Mae gyrwyr wedi cael eu rhybuddio bod nifer o ffyrdd ynghau yn ne Sir Benfro wrth i'r cystadleuwyr rasio ar hyd y ffyrdd o amgylch Dinbych-y-pysgod.
Roedd triathlon mwyaf Cymru, sy'n croesawu athletwyr o 35 o wledydd gwahanol eleni - yn dechrau am 06:55, ble bu'r rhai sy'n cymryd rhan yn nofio 2.4 milltir o Draeth y Gogledd.
Mae taith seiclo 112 milltir yn dilyn, cyn i'r cystadleuwyr wneud marathon llawn 26.2 milltir i orffen.
Dyma yw'r wythfed flwyddyn i'r digwyddiad gael ei gynnal.

Roedd y ras yn dechrau am 06:55 fore Sul, wrth iddi wawrio
Mae'r A4075 rhwng Caeriw a pharc antur Oakwood a'r A4115 i Dredeml ynghau ond mae'r trefnwyr yn dweud na fydd yn cael effaith ar y ddwy brif ffordd trwy'r ardal - yr A40 a'r A477.
Dywedodd cyfarwyddwr y ras, Sam Brown ei fod "wrth fy modd" gyda phoblogrwydd y digwyddiad.
"Mae Ironman Cymru yn ddigwyddiad arbennig, nid yn unig i athletwyr ond hefyd i bobl Dinbych-y-pysgod a Sir Benfro," meddai.