Y Bencampwriaeth: Derby 1-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Cyfartal oedd hi rhwng Derby a Chaerdydd oddi cartref yn y gêm bencampwriaeth nos Wener.
Nid yw Derby County wedi dechrau'r tymor yn dda - dim ond un fuddugoliaeth mewn chwe gêm.
Mae Caerdydd hefyd wedi bod yn brin o goliau ac roedd mis Awst yn ddigon siomedig i'r dilynwyr.
Derby drawodd gyntaf ar ôl chwe munud gyda Malone yn llwyddo i gael y bêl i'r rhwyd. Yna ar ôl ugain munud cafodd Glatzel ei dynnu i lawr yn y blwch cosbi ac ef a gymerodd y gic gosb a rhoi Caedydd yn gyfartal - hon oedd ei gôl gyntaf i'r brifddinas.
Er i Gaerdydd ymosod yn gyson yn yr hanner cyntaf, cyfartal oedd hi ar hanner amser.
Ond yn yr ail hanner roedd Derby yn llawer iawn cryfach a Chaerdydd yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gêm.
Erbyn y chwarter olaf roedd y gêm yn llawer iawn mwy cyfartal a'r ddau dîm yn chwilio am fuddugoliaeth.
Er fod na chwe munud wedi ei ychwanegu at y 90 munud doedd na ddim buddugoliaeth i'r un o'r ddau dîm.
Mae Caerdydd bellach yn 12fed yn y Bencampwriaeth.