Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-1 Nottingham Forest
- Cyhoeddwyd

Mae Abertawe yn parhau ar frig y Bencampwriaeth er iddyn nhw gael eu trechu gan Nottingham Forest yn Stadiwm Liberty brynhawn Sadwrn.
Roedd hi'n dorcalonnus i'r Elyrch wrth i unig gôl y gêm gael ei sgorio gyda phum munud yn unig yn weddill.
Yr eilydd, Alfa Semedo oedd y sgoriwr, wrth iddo rwydo heibio i'r golwr Freddie Woodman o groesiad Lewis Grabban.
Dyma'r tro cyntaf i dîm Steve Cooper gael eu trechu yn y gynghrair y tymor hwn, ond maen nhw'n parhau ar frig y tabl wedi i Charlton golli hefyd.
Er hynny mae'n bosib y gallai Leeds fynd i'r brig ddydd Sul pan fyddan nhw'n herio Barnsley.