Gatland yn poeni am anafiadau ail-reng ar gyfer Georgia

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Warren Gatland yn gadael tîm hyfforddi Cymru ar ôl Cwpan Rygbi'r Byd

Mae Warren Gatland yn cyfaddef ei fod yn poeni am ei opsiynau yn yr ail-reng, gydag Adam Beard a Cory Hill am golli gêm gyntaf Cwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Georgia.

Mae Beard wedi tynnu ei bendics, tra bod Hill heb chwarae ers mis Chwefror oherwydd anafiadau i'w coes a'i ffêr.

Bydd Cymru'n herio Georgia ar 23 Medi cyn wynebu Awstralia chwe diwrnod yn ddiweddarach, ac mae Gatland yn gobeithio y bydd y ddau yn holliach ar gyfer y gêm honno.

"Mae 'na bryder ar hyn o bryd gyda'r chwaraewyr ail-reng," meddai Gatland.

Patchell yn ôl yn ymarfer

Yn absenoldeb Beard a Hill, unig opsiynau ail-reng Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Georgia yw'r capten Alun Wyn Jones a Jake Ball.

Mae'n debyg mai'r chwaraewr rheng-ôl, Aaron Shingler, yw'r opsiwn arall allai chwarae yno.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cory Hill wedi teithio gyda'r garfan i Kitakyushu er gwaethaf ei anaf

Mae ansicrwydd a fydd y maswr Rhys Patchell yn holliach hefyd ar ôl cael ei orfodi o'r maes yn erbyn Iwerddon y penwythnos diwethaf oherwydd anaf i'w ben.

Dywedodd Gatland bod Patchell wedi dechrau ymarfer gyda'r garfan unwaith eto, ac y byddan nhw'n cynyddu ei lwyth gwaith yn raddol dros yr wythnos nesaf.

'Y Ddraig Goch ar injans tân'

Ar ôl treulio dwy noson yn Tokyo, fe wnaeth y garfan deithio i Kitakyushu ddydd Sadwrn i barhau â'u paratoadau.

Cafodd y tîm groeso gwych wrth iddyn nhw gyrraedd Kitakyushu, ac mae'r Ddraig Goch i'w gweld ar nifer o adeiladau a cherbydau ar draws y ddinas.

"Mae'n wych - maen nhw wedi cofleidio Cymru, y tîm a'r diwylliant. Maen nhw wedi rhoi'r Ddraig Goch ar injans tân hyd yn oed!" meddai Gatland.

"Mae'n wych bod y ddinas yn ein cefnogi ni.

"Yn bendant mae 'na berthynas yma a gobeithio y gallwn ni adeiladu ar hynny."