Llanddulas: Gwaith ar yr A55 yn 'niweidiol i'r economi'
- Cyhoeddwyd
Mae AC Ceidwadol wedi beirniadu'r modd mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei gynllunio ar yr A55.
Yn ôl Darren Millar, AC Gorllewin Clwyd, mae'r gwaith presennol yn ardal Llanddulas yn Sir Conwy yn niweidiol i'r diwydiant ymwelwyr ac i'r economi leol.
Mae gwaith cynnal a chadw ar isbont Kneeshaw Lupton, sydd fod para pum wythnos, wedi arwain at oedi hir ar adegau traffig brig ar y lôn ddwyreiniol.
Y llynedd cafodd ochr arall y bont ei thrwsio dros gyfnod tebyg.
Dywedodd Mr Millar ar Twitter: "Mae hyn yn ofnadwy. Mae rheolaeth wael o waith cynnal a chadw yn achosi niwed mawr i ogledd Cymru fel atyniad i ymwelwyr ac fe fydd yn niweidio'r economi.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy."
Mae'r oedi hefyd wedi achosi problemau i ffyrdd cyfagos wrth i yrwyr geisio osgoi'r A55.
Yn ôl Azeem Shamsi, perchennog siop Min y Don ym mhentref Betws-yn-Rhos, mae'r traffig yno wedi cynyddu yn aruthrol oherwydd y gwaith ar yr A55.
"Mae'n amlwg pan mae pobl yn ceisio osgoi gwaith ar y ffordd mae'r ffordd yma yn cael defnydd traffig trwm.
"Ar adegau mae'n gridlock yma."
'Gwaith angenrheidiol'
Mae'r disgwyl i'r gwaith cynnal a chadw orffen erbyn 11 Hydref.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod cau lonydd ar yr A55 yn "gwbl angenrheidiol" er mwyn trwsio'r bont.
"Dyw penderfyniadau i gau lonydd ddim yn cael eu gwneud oni bai eu bod yn gwbl angenrheidiol, ond mae diogelwch y cyhoedd yn flaenoriaeth.
"Mae isbont Kneeshaw Lupton ar y lôn ddwyreiniol wedi dangos rhai arwyddion o bwysau, ac mae angen gwneud y gwaith nawr.
"Hwn yw cam olaf y gwaith a hoffwn ddiolch i yrwyr am fod yn amyneddgar wrth i'r gwaith fynd rhagddo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2019