Rhybudd am oedi posib ar yr A55 yn Sir Conwy am bum wythnos

  • Cyhoeddwyd
A55Ffynhonnell y llun, Traffic Wales
Disgrifiad o’r llun,

Bu oedi mawr y llynedd oherwydd gwaith ar lôn orllewinol yr A55

Mae rhybudd am oedi tebygol ar lôn ddwyreiniol yr A55 yn Sir Conwy ym mis Medi, oherwydd gwaith cynnal a chadw.

Fe fydd y gwaith rhwng cyffordd 23, Llanddulas, a chyffordd 22, Hen Golwyn, yn dechrau ar 8 Medi.

Y llynedd fe wnaeth gyrwyr wynebu oedi hir o ganlyniad i waith cynnal a chadw ar y lôn orllewinol.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates fod gwaith hwnnw wedi cymryd llai o amser na'r disgwyl.

'Gwaith yn angenrheidiol'

Fe fydd y gwaith ar y lôn ddwyreiniol yn digwydd 24 awr y dydd, bob diwrnod o'r wythnos, gyda'r nod o orffen erbyn 11 Hydref.

Dywedodd Mr Skates ei fod yn obeithiol na fydd y gwaith yn cymryd yr holl amser sydd wedi ei glustnodi.

Fe fydd un lôn ar yr ochr orllewinol yn cael ei neilltuo i draffig yn teithio i'r dwyrain, gyda therfyn cyflymdra o 40m.y.a. mewn grym.

Dywedodd Mr Skates: "Rwy'n deall yn iawn nad oes yna unrhyw un yn mwynhau oedi oherwydd gwaith cynnal a chadw ond mae'r gwaith yn angenrheidiol."