Cwest: Pryderon cyn marwolaeth dynes a garcharwyd ar gam

  • Cyhoeddwyd
Annette Hewins
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Annette Hewins ei charcharu ar gam yn 1996

Mae cwest wedi clywed fod menyw gafodd ei charcharu ar gam wedi marw ar ôl cael ei chludo i uned iechyd meddwl.

Bu farw Annette Hewins, 51 oed o Ferthyr Tudful, ar 8 Chwefror 2017, 24 awr ar ôl cael ei chadw dan y ddeddf iechyd meddwl.

Dywedodd ei mab, Nathan Hewins, wrth y cwest ei fod wedi gofyn sawl gwaith iddi gael meddyginiaeth tra yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i'w helpu gyda pheidio â chymryd heroin.

Roedd wedi derbyn cadarnhad y byddai'n derbyn y meddyginiaethau gan feddygon.

'Cymryd cyffuriau'

Fe dreuliodd Ms Hewins gyfnod dan glo ar ôl i lys ei chael yn euog ar gam o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Bu farw Diane Jones a'i phlant Shauna, dwy, a Sarah Jane, 13 mis, mewn tân yn eu cartref ar ystâd Gurnos ym Merthyr Tudful yn 1995.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru dderbyn yn ddiweddarach nad oedd gan Ms Hewins unrhyw beth i'w wneud â'r tân.

Yn ôl Mr Hewins, fe ddechreuodd ei fam gymryd cyffuriau pan oedd hi yn y ddalfa ar ddiwedd y 90au, a dyma'r cyfnod hefyd pan wnaeth ei hiechyd meddwl waethygu dros amser.

"Yn dilyn y camweinyddiad cyfiawnder, roedd popeth yn dechrau mynd yn ofer," meddai.

"Doedd dim byd penodol ond roedd y teulu yn ymwybodol fod ganddi broblemau."

Dywedodd Mr Hewins bod ei bryderon wedi cynyddu yn y misoedd cyn marwolaeth ei fam, ac y byddai hi'n cloi ei hun yn ei llofft am gyfnodau hir.

Roedd hefyd wedi ceisio siarad â'i fam ynglŷn â'i defnydd o gyffuriau, ond mynnodd nad oedd hi'n cymryd unrhyw beth.

Pryderon iechyd meddwl

Cafodd parafeddygon a'r heddlu eu galw i gartref Ms Hewins yn Chwefror 2017 lle roedd hi wedi "cloi ei hun yn yr ystafell ymolchi".

"Ar ôl ei chario i'r ardd roedd hi'n iawn yn gorfforol, ond roeddwn yn pryderu am ei hiechyd meddwl," meddai Mr Hewins.

Wrth gael ei chludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful fe wnaeth ei chyflwr waethygu ac fe ddechreuodd weld rhithiau.

Dywedodd Mr Hewins wrth y cwest nad oedd yn cofio gweld archwiliad corfforol yn cael ei wneud ar y pryd.

Ar ôl cael ei symud i Ysbyty Brenhinol Morgannwg roedd yn "chwilio am ei meddyginiaethau i'w helpu gyda pheidio â chymryd heroin, ar ôl bod yn ei ddefnyddio am 18 mlynedd".

"Cefais wybod y byddai'n derbyn rhywbeth yn ei le, ond nid wyf yn cofio unrhyw beth yn cael ei roi."

Cafodd Mr Hewins alwad ffôn am 17:00 y diwrnod canlynol yn dweud bod ei fam yn gwaethygu. Erbyn iddo gyrraedd yr ysbyty roedd hi wedi marw.

Clywodd y cwest fod Ms Hewins wedi ei chadw dan adran dau o'r ddeddf iechyd meddwl, roedd cynllun wedi'i gytuno i fonitro lefel opiadau yn ei chorff ac i feddyginiaethau gael eu rhoi yn ôl yr angen.

Mae'r cwest yn parhau.