Bil gwahardd taro plant gam yn nes

  • Cyhoeddwyd
plentynFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r mesur fyddai'n gwahardd taro plant yng Nghymru wedi pasio'r cam cyntaf yn y Senedd nos Fawrth.

Pleidleisiodd ACau 36 i 15 o blaid yr egwyddor o roi diwedd ar yr hawl o ddefnyddio "cosb resymol" fel amddiffyniad am ymosod ar blant.

Fe wnaeth ACau Ceidwadol a Plaid Brexit rybuddio y byddai deddfwriaeth o'r fath yn gallu troi rhieni yn droseddwyr.

Ond dywedodd yr is weinidog Julie Morgan nad oedd dim yn bwysicach nag amddiffyn plant bregus.

"Ni allaf byth dderbyn ei bod yn dderbyniol i berson mawr daro person bychan," meddai'r is weinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Disgrifiad o’r llun,

Julie Morgan: 'Ddim yn dderbyniol i berson mawr daro person bychan,"

Yn gynharach eleni fe wnaeth senedd yr Alban bleidleisio o blaid yr egwyddor o wahardd taro plant.

Roedd yr addewid i wahardd taro plant wedi ei gynnwys ym maniffesto Llafur Cymru yn etholiad 2016.

Hwn yw cam cyntaf Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) yn ei daith drwy'r senedd.

Pe bai'n llwyddo byddai'n golygu na fyddai rhiant neu warchodwr yn gallu defnyddio'r amddiffyniad o gosb resymol pe bai nhw'n wynebu cyhuddiad o ymosod ar blentyn.