Pwyllgor Addysg y Cynulliad o blaid gwahardd taro plant

  • Cyhoeddwyd
Smacking childFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Cynulliad yn trafod y cynnig yn yr hydref

Mae pwyllgor a ACau wedi dweud eu bod yn cefnogi cynnig i wahardd taro plant yng Nghymru.

Pe bai' mesur yn cael ei basio gan y Cynulliad yna byddai'r gyfraith newydd yn golygu fod gan blant yr un hawliau o ran derbyn cosbau corfforol a'r hyn sydd gan oedolion.

O ganlyniad, ni fyddai modd i riant ddefnyddio "cosb resymol" fel amddiffyniad cyfreithiol am daro plant.

Ond mae dau aelod Ceidwadol o pwyllgor addysg yn dal i wrthwynebu'r cynnig.

Clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dystiolaeth gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gan gynnwys swyddogion heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, gweithwyr iechyd ac athrawon.

Ar ôl clywed y dystiolaeth mae'r pwyllgor wedi argymell dau beth er mwyn sicrhau bod y mesur "am fod o fudd i blant a'u teuluoedd".

Un yw bod "ymdrech eang i godi ymwybyddiaeth am beth yn union fydd y mesur yn ei newid" a'r ail yw bod "mwy o gefnogaeth ar gael i rieni ar hyd Cymru er mwyn delio â'r heriau sydd ynghlwm â bod yn rhiant".

'Gwahaniaeth gwirioneddol'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle: "Fel pwyllgor rydyn ni'n cydnabod bod gan bobl deimladau cryf ar y ddwy ochr o'r drafodaeth.

"Heb eithriad, roedd y gweithwyr proffesiynol hyn o'r farn y byddai'r mesur yn cynyddu eu gallu nhw i amddiffyn plant yng Nghymru gan y byddai'n gwneud y gyfraith yn gliriach.

"Clywsom ni hefyd y byddai'r mesur yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth osod ffiniau clir y bydd rhieni, plant a'r cyhoedd yn ehangach yn gallu eu deall."

Ffynhonnell y llun, Cynulliad
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Janet Finch-Saunders ym mis Mawrth y gallai'r gwaharddiad bortreadu rhieni ni fel troseddwyr

Yr aelodau o'r pwyllgor sy'n gwrthwynebu'r mesur yw'r ACau Ceidwadol, Suzy Davies a Janet Finch-Saunders.

Dywedodd Ms Finch-Saunders ym mis Mawrth nad oedd hi'n credu y dylai Llywodraeth Cymru geisio "portreadu ein teuluoedd a'n rhieni ni fel troseddwyr".

"Byddwn i'n annog y dirprwy weinidog i fynd 'nôl at y bwrdd gwyn a llunio mesur fyddai'n cwmpasu llawer mwy - rhywbeth sy'n dderbyniol i bob plaid - er mwyn sicrhau bod ein plant yn cael eu hamddiffyn rhag bob math o gamdriniaeth," meddai.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r mesur yn rhan o'u hymroddiad i amddiffyn hawliau plant yn sgil Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Bydd gwerth y mesur yn cael ei drafod yn y Cynulliad yn yr hydref.